Gwrthwynebu saethu adar gwyllt yn afon Dwyfor
- Cyhoeddwyd

Fe ddaeth tua 70 o bobol i gyfarfod cyhoeddus yng Nghricieth nos Fercher i wrthwynebu cais gan y "Traeth Bach Wildfowling Association" i saethu adar gwyllt yn aber afon Dwyfor.
Mae'r gymdeithas wedi cyflwyno cais i Stadau'r Goron, perchnogion y tir, i gael saethu ar ddarn o dir rhyw 200 llath o hyd.
Ond mae nifer o bobol leol yn gwrthwynebu'n chwyrn gan ddadlau y byddai rhoi caniatad i saethu yn difetha tawelwch yr ardal ac y byddai hefyd yn beryglus gan fod llwybr yr arfordir gerllaw.
Mewn datganiad dywed BACS, y gymdeithas sy'n cynhrychioli cymdeithasau saethu, fod yna broses ymgynghori helaeth wedi digwydd ac y dylai pawb fod yn dawel eu meddwl fod saethwyr yn bobol gyfrifol ac yn deall yr angen am ddiogelwch.
Mae disgwyl i Stadau'r Goron wneud penderfyniad terfynol ym mis Gorffennaf.