Cynghorwyr lleol o blaid safle glo brig newydd

  • Cyhoeddwyd
Bryn Defaid ger AberdârFfynhonnell y llun, clc rosehouse
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymgyrchwyr wedi creu fideo ar y we i ddangos sut mae'r safle yn edrych ar hyn o bryd

Mae cynllun i ddatblygu safle glo brig newydd, fyddai'n creu 50 o swyddi yng nghymoedd y de, wedi cael ei gymeradwyo gan gynghorwyr lleol.

Mae cwmni Celtic Energy yn gobeithio datblygu safle 250 acer Bryn Defaid yn Llwydcoed ger Aberdâr.

Mae rhan fwyaf o'r safle yn ardal o bwysigrwydd i gadwraeth natur, sydd yn cynnwys fforest, fferm, rhostir a phentyrau gwastraff glo.

1.2m tunnell

Ond mae grwp o ymgyrchwyr lleol yn gwrthwynebu'r cynllun gan ddadlau y bydd yn creu llygredd, swn a niwed i'r amgylchedd.

Mi benderfynodd cynghorwyr bleidleisio o blaid y datblygiad ar yr amod fod y safle yn cael ei adnewyddu unwaith bydd y gwaith cloddio wedi dod i ben yno.

Gobaith Celtic Energy ydi cloddio 1.2 miliwn tunnell o lo dros gyfnod o bum mlynedd, gyda chyfnod o adnewyddu'r safle am flwyddyn a hanner wedi i'r gwaith ddod i ben.

Dywed y cwmni y bydd 50 o swyddi yn cael eu creu ar y safle gyda'r gobaith y bydd 150 o swyddi eraill yn cael eu creu yn anuniongyrchol o achos y datblygiad.

'Peryglu cynefinoedd'

Ond, fe allai'r gwaith cloddio beryglu cynefinoedd ystlumod, adar a madfallod yn ôl adroddiad gafodd ei gyflwyno i bwyllgor cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae swyddogion cynllunio yn dweud y byddai'r cynllun adfywio a chyfnod ôl-ofal o 25 mlynedd yn gymorth i ostwng y niwed amgylcheddol i lefelau derbyniol, ac maen nhw wedi argymell y dylid cymeradwyo'r cynllun.

Dywedodd adroddiad gan y cyngor fod 150 o lythyrau wedi eu derbyn yn lleisio barn am y cynllun, gyda'r mwyafrif o blaid a 30 yn gwrthwynebu.

Mae pentrefwyr yn Llwydcoed wedi sefydlu grwp i ymgyrchu yn erbyn y cynllun, gan honi fod "cylchran o lo brig" yn tyfu ar draws flaenau'r cymoedd sydd yn creu llygredd, swn a niwed amgylcheddol.

Yn ôl Celtic Energy mae'r cynllun wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus eang ac mae pryderon pobl leol wedi cael eu cysidro.