Datblygiad tai Caerdydd ar droed

  • Cyhoeddwyd
Safle datblygiad Pont Elai
Disgrifiad o’r llun,
Mae safle datblygiad Pont Elái yng ngorllewin Caerdydd yn 53 erw.

Mae'r darn cyntaf o dir datblygu ar safle adeiladu 750 o dai newydd yng Nghaerdydd wedi mynd ar werth.

Mae gan gwmnïau adeiladu tan ganol Mai i gyflwyno'u cynigion gorau ar gyfer darn 7.33 erw o ddatblygiad safle Pont Elái.

Mae cwmni nid-am-elw EBDC wedi cael ei sefydlu i godi 750 o gartrefi ar safle hen felin bapur Pont Elái, sy'n gyfanswm o 53 erw i gyd.

Y datblygiad gwerth £100miliwn oddi ar Cowbridge Road East, yn ardal Treganna, yng ngorllewin Caerdydd, fydd y cynllun adfywio trefol mwyaf o'i fath yng Nghymru.

Melin Bapur

Roedd melin bapur Arjo Wiggins yn dyddio nôl i'r 1870au ond fe gaeodd ei drysau yn 1999 pan gafodd ei phrynu gan Awdurdod Datblygu Cymru.

Roedd yr eiddo am wag ac heb ei ddatblygu am flynyddoedd lawer tan i Gwmni Datblygu Pont Elái (EBDC) sydd wedi'i sefydlu trwy gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu'r Principality, ei brynu yng ngwanwyn 2012.

Y bwriad yw datblygu'r safle 53 erw i gynnig tai fforddiadwy o fewn y brifddinas a chreu cymuned fywiog.

Ym mis Chwefror, fe gafodd caniatâd cynllunio ei roi i adeiladu 750 o dai ar y safle.

Bydd y safle hefyd yn cynnwys ysgol newydd, parc ar lan yr afon, cwblhau llwybr beicio Trelái a dadlygru safle gwag mawr yng Nghanol Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, The Mill
Disgrifiad o’r llun,
Yn ogystal â 750 o dai, bydd y safle hefyd yn cynnwys ysgol newydd, parc ar lan yr afon a chwblhau llwybr beicio Trelái.

Bydd 55% o'r cartrefi yn dai fforddiadwy a chwmni EBDC fydd yn gyfrifol am eu hadeiladu.

Fe fydd 10% o'r tai ar gyfer rhentu a bydd y 35% sy'n weddill yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat a'u gwerthu ar y farchnad agored.

Mae'r 35% hwn yn safle 14 erw ac wedi'u rhannu yn dair rhan o fewn yr ystad.

Mae'r rhan gyntaf nawr wedi cael ei ryddhau i'r farchnad a bydd cyfle i gwmnïau adeiladu gyflwyno eu cynigion drwy dendr erbyn canol Mai.

Dywedodd Jonathan Smart o gwmni DTZ sy'n gyfrifol am farchnata a gwerthu'r tair rhan sydd i'w datblygu:

"Mae'r parsel cyntaf o dir ar gyfer gwerthu preifat wedi derbyn caniatad cynllunio ar gyfer datblygu cartrefi.

"Mae'r safle'n unigryw gan ei fod yn cael ei gynnig heb unrhyw orfodaeth i adeiladu tai fforddadwy neu gyfyngiadau Adran 106.

"Yn sgil diffyg safleoedd datblygu ardaloedd preswyl yng Nghaerdydd a natur unigryw y safle hwn, rydym yn disgwyl diddordeb gwirioneddol gan adeiladwyr tai cenedlaethol a rhanbarthol."