1,500 ddim yn gwisgo gwregys diogelwch

  • Cyhoeddwyd
gwregys dioglewch

Fe gafodd 1500 o bobl yng Nghymru eu dal heb wregys diogelwch tra'n teithio mewn ceir fis diwethaf.

Roedd pedwar llu heddlu Cymru wedi cymryd rhan mewn ymgyrch rhwng y 10fed a'r 23ain o Fawrth i roi'r gyfraith o wisgo gwregys dioglewch ym mlaen a chefn cerbyd i rym.

Roedden nhw hefyd am godi ymwybyddiaeth pobl o'r perygl sy'n eu hwynebu o beidio'u gwisgo.

Mae'r drosedd o beidio gwisgo gwregys yn un o'r 5 trosedd sy'n achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau ar ein ffyrdd.

Y lleill yw gyrru diofal, goryrru, yfed a gyrru a defnyddio ffôn symudol tra'n gyrru.

Mae gyrrwyr neu deithwyr sydd ddim yn gwisgo gwregys yn gallu wynebu dirwy ar y pryd o £100 a dirwy o hyd at £500 os yn cael eu herlyn.

Yn ystod pythefnos yr ymgyrch, roedd cyfanswm o 1524, gan gynnwys 18 o blant dan 14 oed, wedi'u dal heb wregys.

Yn ystod ymgyrch 2013, roedd 1775 o bobl yng Nghymru wedi'u dal, gan gynnwys 46 o blant.

Dywedodd yr uwcharolygydd Paul Evans o Heddlu Gwent: "Mae'r weithred o roi gwregys diogelwch ymlaen yn cymryd eiliadau ond ni ddylem danbrisio ei effeithiolrwydd.

"Hyd yn oed ar daith fer ac ar gyflymder araf, mae gwregys yn lleihau'r tebygolrwydd o gael eich anafu'n ddifrifol neu hyd yn oed eich lladd ar y ffordd, fe ddylai fod yn rhan o drefn arferol pob person cyn i'r cerbyd gael ei danio."