Uned famolaeth Ysbyty Bronglais wedi agor
- Cyhoeddwyd

Mae uned famolaeth newydd wedi agor yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Mae'r uned wedi cael ei datblygu fel rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £38 miliwn i ofal iechyd yng Ngheredigion, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ond mi fydd yr uned yn cael ei harwain gan fydwragedd o hyn ymlaen.
Ym mis Ionawr eleni, fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, y bydd y gwasanaeth mamolaeth wedi ei arwain gan ddoctoriaid yn dod i ben yn Ysbyty Bronglais yn ogystal ag yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Mae'r penderfyniad wedi derbyn beirniadaeth lem yn lleol.
'Adnodd modern'
Mae'r bwrdd yn dweud bod yr uned famolaeth newydd yn adnodd modern gyda mwy o ystafelloedd sengl a dwbl a chyfleusterau en-suite.
Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys ystafell deuluol i famau sy'n dymuno rhoi genedigaeth mewn awyrgylch gartrefol, goleuadau sy'n creu awyrgylch mewn rhai ystafelloedd a mwy o gyfleusterau rhoi genedigaeth mewn dŵr a system ddiogelwch i fabanod.
Mae yna hefyd ardal aros i deulu a ffrindiau.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn dweud bod y cynllun yn un o'u datblygiadau ariannol mwyaf.
Mae'n cynnwys uned frys newydd, uned penderfyniadau clinigol, gwasanaethau meddygon allan-o-oriau, uned lawfeddygol arbennig ar gyfer achosion dydd a ward llawfeddygol newydd cyfnod byr.
Ail-strwythuro ysbytai Hywel Dda
Daw'r datblygiad fel rhan o ail-strwythuro ehangach yn ysbytai Hywel Dda, oedd yn cynnwys israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Mae gwrthwynebwyr yn poeni y gall cau'r uned gofal plant yn Llwynhelyg beryglu bywydau oherwydd bod yn rhaid i gleifion deithio yn bellach.
Ond mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y drefn newydd yn cynnig gofal o safon uwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013