Dyn yn cyfaddef ymosod ar gyn bartner gyda morthwyl

  • Cyhoeddwyd
llys y goron Caernarfon

Mae dyn 48 oed o Wrecsam wedi cyfaddef ymosod ar ei gyn bartner gyda morthwyl.

Newidiodd Philip Vaughan Parry ei ble ar y funud olaf yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau.

Awgrymodd y barnwr, Merfyn Hughes QC, bod Parry wedi sylweddoli y byddai'n siomedig gyda chanlyniad achos o flaen rheithgor, a'i fod wedi tynnu rheithgor i'r llys am ddim rheswm o gwbl.

Roedd Parry wedi ei gyhuddo o ymosod ac achosi niwed corfforol i Katie Jane Garcia, 35 oed, ar Dachwedd 3, 2013.

Roedd Parry wedi bod yn byw mewn pabell y tu ôl i Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Clywodd gwrandawiad blaenorol bod Miss Garcia wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty am fod ei thrwyn wedi'i dorri, a'i bod wedi cael anafiadau eraill gan gynnwys chwyddo i'r pen, ar ôl yr ymosodiad yn y babell.

Mae Parry yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar Fai 9.