300 o ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid fferm

  • Cyhoeddwyd
Wyn bach
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 93 o achosion o ymosod ar ddefaid, ŵyn ac anifeiliaid eraill, wedi bod ym Mhowys rhwng 2011 a 2013

Mae cŵn yn gyfrifol am dros 300 o ymosodiadau ar anifeiliaid fferm yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau gan heddluoedd Cymru.

Mae undebau'r ffermwyr yn annog perchnogion cŵn i gadw'u hanifeiliaid ar dennyn, wedi cyfres o ymosodiadadau diweddar.

Mae'r wybodaeth sydd wedi'i gasglu gan yr AC Ceidwadol, Antoinette Sandbach, yn dangos mai ym Mhowys oedd y nifer fwyaf o ymosodiadau, gyda chyfanswm o 93 rhwng Ionawr 2011 i Ragfyr 2013, a Sir Benfro yn ail gyda 45 achos.

Yn y gogledd, dim ond 25 o achosion fu mewn cyfnod o dair blynedd ar draws chwe sir - naw yng Nghonwy, chwech yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint, dau yn Wrecsam ac un yr un yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Chafodd yr un ymosodiad eu cofnodi yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, na Chastell Newydd Port Talbot.

Roedd dau yn y Rhondda, chwech yng Nghasnewydd, naw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a deg achos yng Ngheredigion.

Cadw ar dennyn

Mae'r Aelod Cynulliad dros y gogledd yn galw ar ffermwyr i sôn am bob ymosodiad ar anifeiliaid wrth yr heddlu. Mae'n credu nad ydy pob un yn gwneud am nad ydyn nhw'n credu y bydd y cŵn yn cael eu holrhain.

"Fel perchennog ci fy hun, dwi'n gwybod bod cŵn yn hoffi bod yn rhydd o'r tennyn ac yn rhydd i redeg i archwilio ar eu pen eu hunain. Ond dydy cefn gwlad ddim ar gyfer mwynhad yn unig - mae'n awyrgylch weithiol ac ar hyn o bryd, mae'n amser pwysig iawn o'r flwyddyn i ffermwyr.

"Mae'r anifeiliaid hyn yn agored i ymosodiadau gan gŵn, megis pan fo'r anifail yn llarpio oen neu lo bach; mae dafad feichiog neu fuwch yn gallu colli'u hanifeiliaid yn y groth os yden nhw'n cael eu herlid gan gŵn.

"Pan fo sawl ci, mae nhw'n troi'n haid ac mae'n anodd iawn eu rheoli - felly mae'n haws i beidio â'u gadael yn rhydd o'r tennyn o gwbl.

"Ro'n i wedi cael fy synnu gyda'r ffigyrau i rai ardaloedd, gan fy mod yn clywed yn ddibaid gan ffermwyr am eu pryderon am boeni defaid," meddai Ms Sandbach.

"Dwi wastad yn eu hannog i grybwyll y materion hyn i'r heddlu, ac fe fyddwn yn gofyn i'r ddwy undeb amaethyddol i bwyso ar eu haelodau i wneud yn siwr eu bod yn nodi pobl ymosodiad, fel ein bod yn gallu adeiladu darlun llawn o'r hyn sy'n digwydd yn ein caeau."

"Lladdfa wallgof"

Mae Andrew Griffiths yn berchen ar dyddyn ger mynydd Llanelli yn Sir Fynwy.

Fis diwethaf, fe gollodd dair dafad a thri oen pan roedd ci wedi cael ei adael yn rhydd yn ei gae.

"Roedd yn frawychus ac yn ofidus. Mae'r anifeiliaid yma, rydych yn eu bwydo drwy'r gaeaf, rydych yn gofalu amdanyn nhw ac yna'n dod ar draws y dinistr yma.

"Mae'n rhywbeth na fedrai 'mond ei ddisgrifio fel lladdfa wallgof gan y ci. Roedd wedi'i orchuddio mewn gwaed. Dim ond gêm oedd e i'r ci ond yn amlwg, mae goblygiadau i'r rheiny sy'n cadw anifeiliaid. "

Colli 11 o ddefaid

Mae cyn-lywydd NFU Cymru, Ed Bailey, wedi cael profiad tebyg.

Ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Gwener, dywedodd ei fod yn "cofio colli 11 dafad yn ystod amser cinio unwaith. Ro'n i'n gorfod magu 22 o ŵyn bach wedyn achos roedd pob un efo efeilliaid."

Mae Mr Bailey yn byw ar gyrion pentref ond dydy o ddim yn credu mai ci rhywun lleol oedd yn gyfrifol.

"Dwi'n credu mai pobl ar wyliau oedden nhw, y ci wedi cael ei adael yn rhydd."

Ychwanegodd ei fod yn teimlo dros y ffermwyr hynny yn sgil ymosodiad fel hyn.

"Ond dwi'n teimlo dros y ddafad yn ofnadwy ... mae angen cofio pa mor greulon ydio i'r ddafad ..."

Weithiau, meddai, does gan neb syniad ci pwy sy'n gyfrifol ond mae Ed Bailey yn annog perchnogion i gadw llygad ar eu cŵn rhag ofn bod arwyddion.

"Efallai eu bod nhw'n lladd defaid heb iddyn nhw wybod. Ond byddai arwyddion fel gwlân neu waed ar gorff y ci.

"Mae gan ffermwr hawl i saethu'r ci ond chi ddim eisiau gwneud hynny. Mae pawb yn hoffi cŵn. Does neb eisiau colli neu saethu ci."

£80 - £90 y pen

Dywedodd Glyn Davies o Undeb Amaethwyr Cymru bod wyn werth oddeutu £80 i £90 y pen ar hyn o bryd, ac mae hyd yn oed cael ei herlid gan gi yn gallu golygu bod dafad yn gallu colli'i hoen.

"Dwi'n credu fy mod yn nabod fy nghi, ond fyswn i bendant ddim yn ei drystio i fod yn rhydd o amgylch wyn ifanc. Dwi'n credu eu bod nhw'n gweld oen ifanc a dydyn nhw ddim yn arfer eu gweld.

"Ar yr adeg hon o'r flwyddyn pan fyddan nhw'n fwy amlwg, jyst byddwch yn ymwybodol. Plis rhowch nhw ar dennyn fel ein bod yn gallu ceisio cadw'r achosion hyn i leiafswm."