Mwy o ymgeiswyr i brifysgolion Cymru ers 2012

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Roedd dros 25,000 o ymgeiswyr i brifysgolion Cymru, fel Prifysgol Bangor, yn 2013

Mae nifer yr ymgeiswyr i brifysgolion Cymru wedi cynyddu 6% o'i gymharu â 2012.

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod dros 25,000 o geisiadau i brifysgolion Cymru yn 2013.

Mae'r nifer o fyfyrwyr o Gymru sy'n ymgeisio hefyd wedi cynyddu ychydig.

Oherwydd newidiadau i'r system ffïoedd, gall prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig bellach godi £9,000 y flwyddyn mewn ffïoedd dysgu.

Mwy o ymgeiswyr

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, roedd 25,511 o ymgeiswyr yn 2013, cynnydd o tua 1,400 ers 2012.

Er hynny, nid yw'r nifer mor uchel ag yn 2011, pan roedd dros 26,000 o ymgeiswyr.

Mae ffigwr 2013 yn gynnydd o 5,000 ers degawd ynghynt, yn 2003, pan roedd 20,500 o geisiadau.

Mae nifer yr ymgeiswyr o Gymru sy'n cael eu derbyn i brifysgolion y DU hefyd wedi codi.

Roedd 19,663 cais i astudio ym mhrifysgolion y DU gan fyfyrwyr Cymraeg, cynnydd o 2% ers 2012.

Roedd tua 60% o'r rhain wedi aros yng Nghymru i astudio, tra bod 7,300 (37%) wedi eu derbyn i sefydliadau yn Lloegr.

Cafodd tua 100 eu derbyn i brifysgolion yr Alban, ac roedd 5 myfyriwr wedi mynd i astudio yng Ngogledd Iwerddon.

Mae hwn yn gynnydd o dros 3,000 ers y nifer yn 2003.

Newid y drefn

Ers y newid yn nhrefn ffïoedd prifysgolion yn 2012, gall prifysgolion yn y DU bellach godi £9,000 y flwyddyn mewn ffïoedd dysgu.

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn talu am unrhyw ffïoedd blynyddol sydd dros tua £3,500 drwy gyfrwng grant.

Mae hynny'n golygu bod y llywodraeth yn talu rhyw £5,500 am bob myfyriwr sy'n penderfynu astudio yn Lloegr, yr Alban neu Gogledd Iwerddon.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos mai 48% o holl fyfyrwyr prifysgolion Cymru oedd yn hanu o Gymru, sydd 1% yn is nag yn 2012.