Sarjant yr Heddlu yn gwadu cael rhyw yn ei waith

  • Cyhoeddwyd
Richard EvansFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bydd achos Richard Evans yn dechrau ym mis Awst

Mae swyddog wedi gwadu iddo gael rhyw yn ystod ei waith fel sarjant gyda Heddlu Gwent.

Mae Richard Evans, 50, wedi ei gyhuddo o gael rhyw gyda thair menyw yn cynnwys aelod o'r cyhoedd a menyw oedd yn y ddalfa.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o dri achos o ymosodiadau rhyw.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod yr achos yn ymwneud â chwynion gan dair o fenywod.

Gwadodd Mr Evans yr holl gyhuddiadau a cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Awst pan fydd ei achos yn dechrau.