Byrgleriaeth yn effeithio myfyrwyr Coleg Cambria
- Cyhoeddwyd

Cafodd offer gwerth £15,000 ei ddwyn o ganolfan cerbydau modur Coleg Cambria, Cei Connah, ym mis Hydref 2013, gan effeithio ar astudiaethau'r myfyrwyr.
Yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug, cafodd Jack Harpur, 20 oed, o Gei Connah, ei ddedfrydu i 15 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc wedi iddo gyfaddef i'r drosedd.
Roedd wedi cael ei ddal yn dilyn profion DNA ar smotyn o waed a ddarganfuwyd yn y fynedfa lle'r aeth y lleidr i mewn i'r coleg.
Effeithio myfyrwyr
Clywodd y llys bod cyllideb y coleg yn gyfyng ac nad oedd unrhyw arian dros ben i brynu mwy o offer yn eu lle .
Roedd yn rhaid i'r coleg hawlio am yr offer ar eu polisi yswiriant.
Dywedodd James Coutts, bargyfreithiwr yr erlyniad, bod rhai o'r myfyrwyr wedi gweld effaith negyddol ar eu hastudiaethau oherwydd nad oeddynt yn gallu'u gorffen, tra bod y coleg yn disgwyl am offer newydd.
Digwyddodd y fyrgleriaeth rhwng 4 y pnawn ar Hydref 30 a bore Tachwedd 1, y llynedd.
Cafodd darn o goncrid ei daflu drwy ffenestr yn y coleg.
Cymrwyd naw bocs yn llawn offer trin ceir.
Dangosodd lluniau CCTV bod nifer o gerbydau wedi bod yn bresennol pan ddigwyddodd y fyrgleriaeth.
Oherwydd hyn, meddai Mr Coutts, roedd achos yr erlyniad yn meddwl bod Mr Harpur wedi cyd-weithio gydag eraill wrth ddwyn o'r coleg.
Dywedodd y Barnwr, Niclas Parry, ei fod yn drosedd ddifrifol a gafodd effaith ar astudiaethau'r myfyrwyr.