Harry Andrews yn ymddeol fel arweinydd Cyngor Caerffili
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Sir Caerffili, y cynghorydd Harry Andrews, wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol o'i swydd er mwyn treulio mwy o amser gyda'i deulu.
Mewn llythyr at gynghorwyr dywedodd arweinydd y Blaid Lafur y byddai'n sefyll i lawr yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol yr awdurdod ar Fai 8.
Dywedodd ei fod eisiau "dilyn diddordebau personol a threulio mwy o amser gyda'i deulu" ond byddai'n parhau i fod yn aelod ward i Gilfach.
'Dymuno'n dda'
Meddai'r cynghorydd: "Mae'n anrhydedd fy mod wedi cael arwain ein cyngor am y ddwy flynedd diwethaf yn ogystal â'r weinyddiaeth rhwng 2004 ac 2008.
"Rwy'n dymuno'n dda i fy olynydd, ac fe all ddibynnu ar fy nghefnogaeth lawn yn y dyfodol."
Mae Andrews wedi bod yn gynghorydd ers 1967 pan gafodd ei ethol yn aelod ar gyfer Gilfach a Bargoed i hen Gyngor Dosbarth Trefol Gelligaer.
Mae'r cyn-beiriannydd ac ynad wedi bod yn aelod o'r awdurdod ers iddo gael ei ffurfio yn 1996.
Straeon perthnasol
- 22 Ionawr 2014