Cyngerdd Proms yn dychwelyd i Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Proms in the Park yn Abertawe 2010
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y noson yn gorffen gydag arddangosfa o dân gwyllt

Bydd disgwyl miloedd i dyrru i Barc Singleton yn Abertawe ym mis Medi wrth i gyfres Proms in the Park y BBC ddychwelyd i'r ddinas am y tro cyntaf ers 2010.

Cyhoeddodd y BBC ddydd Iau y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Fedi 13 fel rhan o ddathliadau noson olaf cyngherddau'r Prom.

Bydd dychwelyd i Abertawe yn cyd-fynd â nodi canrif ers geni Dylan Thomas.

Fe fydd cyfres o westeion yn ymddangos ar y noson, ac er nad yw'r rhestr wedi ei chyhoeddi eto, fe fydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio yn y digwyddiad awyr agored.

'Gwledd'

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies:

"Mae Proms in the Park y BBC yn gyfle gwych i rannu yn hwyl a chyffro noson olaf y Proms. Eleni byddwn yn ôl yn Abertawe wedi cyfnod llwyddiannus yng Nghaerffili.

"Mae dychwelyd i Barc Singleton yng nghanmlwyddiant geni Dylan Thomas yn gyffrous dros ben ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn y parc a'r miliynau o wylwyr adref yn cael gwledd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Nick Bradley, aelod o gabinet Cyngor Abertawe gyda chyfrifoldeb am adfywio:

"Fe wnaethon ni weithio'n galed i ddod â'r Proms yn ôl i Abertawe gan ei fod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn diolch i'r llwyfan trawiadol ac artistiaid o fri, ac rwy'n gwybod y bydd miloedd wrth eu bodd o'i weld yn dychwelyd i Barc Singleton.

"Mae gennym raglen o ddigwyddiadau wedi'u trefnu dros y misoedd nesaf, ac fe fydd y Proms yn ychwanegiad mawr i'r hyn sy'n gaddo bod yn haf a fydd yn cefnogi statws Abertawe fel dinas o ddiwylliant a chwaraeon."

Bydd y noson yn dod i ben gydag arddangosfa o dân gwyllt a chanu cynulleidfaol.