Dominic Dale yn yr ail rownd
- Cyhoeddwyd

Bydd Dominic Dale yn wynebu Michael Wasley yn yr ail rownd
Mae'r Cymro Dominic Dale wedi cyrraedd ail rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.
Bydd yn ymuno â Ryan Day yn yr ail rownd ar ôl curo Mark Davis o Loegr o 10-5 yn y rownd gyntaf brynhawn Iau.
Yn gynharach yn y gystadleuaeth fe gurodd Ryan Day yr Albanwr Stephen Maguire o 10-9.
Yn yr ail rownd bydd Day yn cwrdd ag un o'r ffefrynnau, y Sais ifanc Judd Trump, tra bydd Dale yn wynebu Michael Wasley a gurodd un arall o'r ffefrynnau, Ding Junhui yn y rownd gyntaf.
Collodd yr unig Gymro arall yn y gystadleuaeth, Michael White, yn y rownd gyntaf i Mark Selby o 10-9.