WYTHNOS CYMRU FYW: EBRILL 22-25
- Cyhoeddwyd
Gyda wythnos gyntaf Cymru Fyw yn dirwyn i ben dyma gyfle i edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau yr wythnos ac ambell i bwt doniol ac anarferol sydd wedi digwydd yng Nghymru dros y dyddiau diwethaf.
Mi fyddwn ni yn gwneud hyn yn wythnosol, ond wrth reswm y ffordd orau i gael blas ar yr holl gynnwys yw i chi ymuno gyda ni yma ar Cymru Fyw yn ddyddiol.
Y ffordd hwylusaf i chi wneud hynny yw ychwanegu bbc.co.uk/cymrufyw at eich ffefrynnau (bookmarks) ar eich cyfrifiadur, dabled neu ffôn symudol.
Fe ddechreuodd gwasanaeth Cymru ddydd Mawrth 22 Ebrill 2014 . Dyma i chi flas o rai o'r straeon gafodd sylw ar y llif byw
Titw Tomos Las, Deryn y Bwn, Mi Welais Jac y Do .. mae 'na nifer fawr o ganeuon yn y Gymraeg sy'n cyfeirio at adar. Ond a fydd palod Ynys Dewi yn gwrando arnyn nhw yn y dyfodol? Dyma i chi stori anarferol gafodd sylw Cymru Fyw
Mae system sain wedi cael ei gosod ar Ynys Dewi oddiar arfordir Sir Benfro er mwyn helpu cynllun bridio'r palod sydd yno. Mae'r RSPB yn chwarae synau galw'r palod drwy'r system mewn ymgais i'w denu'n ôl i'r ynys i fridio wedi absenoldeb o 100 mlynedd. Roedd arbenigwyr yn llwyddiannus yn gwneud rhywbeth tebyg ar ynys ger Gogledd Iwerddon.
Mae'n fwriad ganddom ni ar Cymru Fyw i dynnus ylw ar y degau o eisteddfodau sydd yn cael eu cynnal bron yn wythnosol ar hyd a lled Cymru. Roedd yna dair yn cael eu cynnal dros wŷl y Pasg - Uwchmynydd ym Mhen Llŷn, Eisteddfod Talybont, Rhyduchaf, Y Bala ac Eisteddfod Pandy Tudur ger Llanrwst. Dyma i chi ymgais fuddugol Edna Davies o Lanfair Talhaearn enillodd gystadleuaeth y llinell goll yn Eisteddfod Pandy Tudur
Maen nhw'n dweud, yn ôl y sôn,
Nid oedd twrch ar dir Sir Fôn
Nes i Telford bontio'r dyfroedd
Nawr maent yno wrth y miloedd.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ganlyniadau'r Eisteddfodau ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Fe gawsom ni hanes un o ferched dawnus Caerdydd
Mae merch 10 oed o Gaerdydd wedi ysgrifennu ar wefan Pobl Caerdydd am daith côr Only Kids Aloud i Dde Affrica ymhen ychydig ddyddiau.
Cafodd y côr o blant ei ffurfio'n wreiddiol i fod yn rhan o gorws Canolfan Mileniwm Cymru. Maen nhw wedi eu gwahodd i Dde Affrica i fod yn rhan o ddathliadau 20 mlynedd ers rhyddid y wlad.
Mi wnaethom ni roi sylw hefyd i gyhoeddiad am un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr hâf:
Mae Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr wedi cyhoeddi y bydd Swci Delic yn dangos ei gwaith celf yn yr ŵyl eleni.
Swci Delic yw'r arlunydd Mared Lenny oedd yn perfformio dan yr enw Swci Boscawen cyn iddi gael ei tharo'n wael gyda chansyr yr ymennydd. Bydd ei gwaith i'w weld yn Ninefwr drwy gydol mis Mehefin.
MOR BLENTYNAIDD
Mae gwefan Ffrwti wedi cyhoeddi cyfres o luniau gan Catrin Tomos. Mae hi a'i brawd a chwaer wedi ail greu lluniau o'u plentyndod fel anrheg i'w rhieni.
Os ydi'ch amser chi'n brin beth am ddarllen darnau o feicro-lenyddiaeth. Cafodd casgliad newydd ei gyhoeddi'r wythnos hon ar wefan y Neuadd
Diwrnod y cerddorion oedd hi ddydd Gwener. Roedd yna gyhoeddiad am y 12 artist/band fyddai'n elwa o brosiect Gorwelion cynllun ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo talent gerddorol newydd.
Hefyd mae hi wedi bod yn Ddiwrnod Cerddoriaeth BBC Radio Wales. Ymhlith yr uchafbwyntiau y mae cyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant i nodi 30 mlynedd ers sefydlu'r grwp roc poblogaidd The Alarm. Mae Mike Peters a'r band yn chwarae rhai o'u caneuon mwya poblogaidd i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru. Gallwch glywed rhai o'r caneuon a theyrnged arbennig U2 i The Alarm ar wefan BBC Radio Wales
Gobeithio eich bod wedi mwynhau y pigion yma o lif byw Cymru Fyw. Cofiwch ymuno gyda ni o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 0800-1800