Parcio camperfans yn achosi ffrae ar bromenâd Aber

  • Cyhoeddwyd
Motor homes parked on Aberystwyth promenade
Disgrifiad o’r llun,
Mi oedd ryw 20 o gamperfans wedi parcio ar y promenâd haf y llynedd, meddai un cynghorydd

Mae na gynlluniau i atal pobl sydd yn berchen ar gamperfans rhag parcio dros nos ar bromenâd Aberystwyth. Y bwriad ydy gwneud y rheolau yn fwy caeth a hynny am fod 'na gwynion haf y llynedd bod rhai cerbydau yn cael eu cadw am wythnosau ar y promenâd.

Y cynllun ydy bod neb yn medru parcio ar y safle am fwy na phedair awr.

Ond mae'r newid wedi ei feirniadu gan bobl sydd yn byw yn agos sy'n dweud bod hyn yn eu hatal nhw rhag parcio yn agos i'w tai.

Cyngor Ceredigion fydd yn penderfynu ar y cynlluniau ym mis Mai.

Dywedodd Aled Davies, sydd yn gynghorydd ar gyfer y ward lle mae'r promenâd: "Roedd 'na nifer o gwynion ynglyn â faniau gwersylla a camperfans wedi eu parcio yn ne y promenâd haf y llynedd."

"Roedd na gymaint ag 20 o faniau wedi parcio ar yr un adeg ac mi roedd rhai faniau gwersylla yn aros yno am chwe wythnos."

Mae Elizabeth Pugh yn byw wrth ymyl y môr. Mi ddywedodd hi: "Os yw'r cyngor angen cyflwyno rheoliadau parcio, mae angen iddyn nhw gynnig rhywbeth i drigolion sydd heb garej ac sydd yn gorfod parcio ar y promenâd."

"Mi fydden i un ai yn gorfod symud fy nghar bob pedair awr neu dalu mwy nag £20 yr wythnos a pharcio fy nghar yn y maes parcio wrth ymyl yr harbwr."

Dilyn Ewrop?

Mae pobl sydd yn defnyddio faniau gwersylla yn y dref hefyd yn annog y cyngor i feddwl am ateb arall. Mae Gary Turner o Gaerwrangon yn dweud ei fod wedi cael ymateb negyddol gan rhai pobl leol pan wnaeth o barcio ar y promenâd.

"Dw i ddim eisiau unrhyw drwbl. Y cyfan dw i eisiau ydy aros yn agos at lan y môr."

"Mi ddylai'r cyngor ystyried system yn Ewrop lle mae hyn a hyn o lefydd parcio...ar gyfer faniau gwersylla a'i bod nhw'n caniatau i bobl aros dros nos."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion bod y cyngor wedi derbyn rhwng 5 a 10 o gwynion diweddar am gamperfans wedi eu parcio ar y promenâd.

Mae'r cyngor hefyd wedi derbyn galwadau ffôn gan bobl sydd yn defnyddio camperfans yn gofyn i'r awdurdod beidio eu hatal rhag parcio yn y safle yma.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol