Gweithwyr tân am streicio eto ym mis Mai

  • Cyhoeddwyd
Injan dânFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y streic yn digwydd dros benwythnos gŵyl y banc

Mi fydd gweithwyr tân yn streicio eto dros wŷl y banc mis nesaf a hynny am eu bod yn anhapus gyda newidiadau i'w pensiynau.

Bydd aelodau Undeb y Frigâd Dân ar streic am bum awr ar Fai 2 ac yna am gyfnodau hirach ar Fai 3 a Mai 4.

Fydd hi chwaith ddim yn bosib i weithwyr eraill wirfoddoli i weithio oriau ychwanegol yn ystod y streic o 3 o'r gloch Mai 4 tan 12 o'r gloch y prynhawn Mai 9.

Mi fuodd 'na sawl streic y llynedd ynglŷn â bwriad Llywodraeth San Steffan i godi'r oed ymddeol a newidiadau i'w pensiynau. Roedd yr undeb yn dweud bod y math o waith mae diffoddwyr yn ei wneud yn golygu bod gweithwyr hŷn yn ei chael hi'n anodd oherwydd y safonau ffitrwydd.

Mi fuodd na drafodaethau gyda'r llywodraeth ond yn ôl Undeb y Frigâd Dân dyw'r anghydfod ddim wedi ei ddatrys.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud bod y cynnig pensiwn yn un "hael".