Nid y parciau cenedlaethol ddylai fod â phwerau cynllunio, medd undeb

Arwydd Parc y Bannau
Image caption Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y bydd llai o awdurdodau cynllunio yn y dyfodol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud y dylai pwerau cynllunio parciau cenedlaethol Cymru gael eu cymryd oddi wrthynt.

Eisoes mae'r undeb wedi pasio cynnig yn galw am drosglwyddo pwerau cynllunio i gynghorau lleol.

Yn ôl yr undeb, byddai hyn yn arbed arian ac yn golygu y byddai 'na fwy o gysondeb mewn penderfyniadau cynllunio.

Glyn Powell, cyn ddirprwy lywydd y mudiad ac aelod oes, wnaeth wneud y cynnig.

Dywedodd wrth Newyddion Naw fod "anghysondeb yn y ffordd maen nhw'n gweinyddu ... mae'n annemocrataidd a dw i ddim yn meddwl bod y parc yn gwerthfawrogi hanes a thraddodiadau Cymru ...

'Afresymol'

"Mae'n tueddu i ganolbwyntio mwy ar dwristiaeth a phobl sydd yn dod ag arian i mewn na'r boblogaeth gynhenid ac amaethyddiaeth."

Dywedodd y dylai pwerau gael eu trosglwyddo i gynghorau lleol am fod y system bresennol yn "afresymol ac aneffeithiol".

Mae'r alwad wedi ei chefnogi gan rai yn Sir Benfro sy'n anfodlon ar y system gynllunio yn y parc cenedlaethol.

Mae gan Rheinallt Evans 50 mlynedd o brofiad fel pensaer. Mae wedi bod yn rhoi cyngor i bobl o fewn y parc cenedlaethol sydd wedi bod yn cael trafferth cael ymgynghoriad cynllunio.

Dywedodd wrth BBC Cymru fod yna "ddiwylliant negyddol" wrth geisio delio gyda cheisiadau cynllunio o fewn y parc cenedlaethol a bod y parc yn cael ei weld fel "amgueddfa lle dyle dim byd ddigwydd."

Diffyg dealltwriaeth

Wrth ymateb, dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, fod 'na ddiffyg dealltwriaeth am gwaith y parciau cenedlaethol a bod "ffermwyr wedi elwa tipyn o waith y parciau cenedlaethol."

Ychwanegodd ei fod "wedi fy synnu ychydig fod yr undeb yn gwneud penderfyniadau a allai fod yn niweidiol i rhai o'i aelodau."

Dywedodd Mr Jones fod 85% o geisiadau sydd yn cael eu rhoi i'r tri pharc cenedlaethol yn cael eu cymeradwyo. Dyma tua'r un faint mae awdurdodau cynllunio eraill yn cymeradwyo, meddai.

Ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Gwener, roedd Caerwyn Roberts, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud bod "93% sy'n ceisio am ganiatad cynllunio yn dweud eu bod yn hapus neu'n fwy na bodlon efo'r gwasanaeth mae nhw'n ei gael".

Pan honnwyd wrth Glyn Powell o Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod yr un sgwrs ar rhaglen radio'r BBC, bod y parciau yn gwarchod ardaloedd prydferth o Gymru, dywedodd bod "Cymru i gyd yn hardd. Dyle bod un dros Gymru gyfan. Mae'r Llywodraeth wedi uno sefydliadau Cyfoeth Naturiol Cymru, pam ddim gwneud yr un peth?"

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar Fil Cynllunio drafft ac mae'n edrych yn fwy tebygol y bydd y nifer o awdurdodau cynllunio yng Nghymru yn lleihau yn y dyfodol.

Mewn araith ddiweddar dywedodd y Gweinidog â chyfrifoldeb cynllunio, Carl Sargeant, ei fod wedi siarad gyda "Chyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynglŷn â datblygu un gwasanaeth cynllunio."

Straeon perthnasol