Damwain: pump yn yr ysbyty ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi ei hanfon mewn hofrennydd i'r ysbyty yn dilyn damwain rhwng tri char ym Mhowys.
Cafodd pedwar person arall eu hanfon i'r ysbyty mewn ambiwlans.
Roedd yn rhaid defnyddio offer arbennig fel bod un person yn medru dod allan o'r car.
Mi ddigwyddodd y ddamwain toc cyn 4 brynhawn Iau ar yr A470 wrth ymyl Llanidloes.