Protest Cymdeithas yr Iaith yn swyddfa Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Protest CymdeithasFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,
Llun Cymdeithas yr Iaith o feddiannu swyddfa Llywodraeth Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod eu haelodau wedi meddiannu a chau prif fynedfa swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd.

Maen nhw'n dweud bod "diffyg gweithredu" gan Brif Weinidog Cymru mewn ymateb i ganlyniadau'r cyfrifiad diwethaf, wedi creu "argyfwng gwleidyddol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod chwe pherson yn cymryd rhan mewn protest heddychlon yn hen dderbynfa swyddfeydd Parc Cathays, gan ychwanegu bod y brif dderbynfa - sy'n fynedfa i staff ac ymwelwyr - yn dal yn agored.