Awel Deg: Galw am ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Cartref Awel Deg
Disgrifiad o’r llun,
Ym mis Chwefror, fe gafodd 11 o staff cartref preswyl Awel Deg eu gwahardd o'u gwaith ac fe gafodd y lle ei gau yn sgil pryderon am safon y gofal

Mae undebau yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r penderfyniad i gau cartref gofal Awel Deg yn Llandysul yn ddisymwth.

Mae undebau Unison a'r GMB hefyd am gael siarad â chynghorwyr Ceredigion i drafod y sefyllfa sydd wedi arwain at 40 aelod o staff yn wynebu diswyddiad.

Ym mis Chwefror, fe gafodd 11 o staff y cartref eu gwahardd o'u gwaith ac fe gafodd y lle ei gau yn sgil pryderon am safon y gofal.

Mae Cyngor Ceredigion yn dweud ei bod wedi nodi cais Unison a'u bod yn parhau i weithio gyda'r undeb i drafod y ffordd ymlaen.

Fe ychwanegon nhw bod cyfarfod staff ffurfiol i'w gynnal ddydd Llun, Ebrill 28, ac y byddai'n amhriodol i ymateb ymhellach tan bod y cyfarfod wedi cael ei gynnal.

Cartref i ail-agor?

Mae'r undebau ar ddeall bod y Cyngor yn bwriadu ail-agor y cartref ac mai mater dros dro yw'r cau er mwyn delio gyda'r gwaharddiadau staff ac i adnewyddu'r lle.

Gan bod y cau yn rhywbeth dros dro, mae'r undebau yn dadlau y byddai'n annheg ac yn aneffeithiol i ddiswyddo staff oherwydd y gost fyddai'n gysylltiedig gyda thâl diswyddo, cyflogi ac ail-hyfforddi staff newydd ac ati.

Mae'r undebau am weld y gweithwyr yn cael eu symud i swyddi gwag dros dro, ac y byddai cadw'r staff mewn cyflogaeth yn golygu eu bod wedi'u hyfforddi'n barod ar gyfer ail-agor y cartref.

O ran y pryderon am safon gofal y cartref, mae'r undebau am weld ymchwiliad annibynnol trylwyr a manwl fyddai'n caniatáu i weithwyr siarad yn agored am eu pryderon am reolaeth y cartref a'r penderfyniadau gafodd eu cymryd gan bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r achos ar bob lefel o'r cyngor.

Mae'r undebau yn honni bod uwch swyddogion y cyngor wedi gwrthod gwrando'n iawn ac ymateb i'w dadleuon, ac er eu bod wedi cytuno, mewn egwyddor, i gynnal ymchwiliad annibynnol. Mae'r undebau'n dweud nad oes cadarnhad ffurfiol o hynny wedi dod eto.

Pryderon am 'oedolion bregus'

Pan gaewyd y cartref ddiwedd Chwefror, roedd saith o bobl yn byw yn Awel Deg ond roedd y cyngor yn dweud y bydden nhw'n dod o hyd i rywle arall i'r bobl fyw ynddo.

Fe gafodd 11 o staff eu gwahardd dros dro, yn ôl y cyngor, "er mwyn galluogi i ymchwiliad annibynnol edrych ar bryderon am amddiffyn oedolion bregus".

Roedd y cyngor wedi dweud y byddai'r cartref ynghau am chwe mis fwy na thebyg gyda'r bwriad o agor canolfan ddementia yno.

Adroddiad beirniadol

Fis Mai y llynedd, fe feirniadodd adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru y cartref gan "nad oedd yna unrhyw raglen weithgareddau wedi ei strwythuro yn cael ei darparu i breswylwyr y cartref".

Roedd yr adroddiad wedi ymweliad arolygol fis cyn hynny.

Ychwanegodd yr adroddiad: "Fe gafodd pobl eu gweld yn eistedd mewn lolfeydd gyda theledu, ac fe ddywedwyd nad oedden nhw'n gallu ei weld na'i glywed yn iawn. Mae hyn yn golygu bod gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ddiffyg diddordeb ac nad ydyn nhw wedi eu boddhau."