Chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swydd Comisiynydd Plant

  • Cyhoeddwyd
Keith Towler
Disgrifiad o’r llun,
Daw cyfnod y Comisiynydd presennol, Keith Towler, i ben ddechrau 2015

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swydd y Comisiynydd Plant.

Daw cyfnod y comisiynydd presennol Keith Towler i ben ddechrau 2015 ac yn ôl y ddeddf, nid yw'n cael ymgeisio eto.

Mr Towler olynodd y Comisiynydd Plant cyntaf, Peter Clarke.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i benodi Comisiynydd Plant a hynny yn ôl yn 2001, fel bod "llais annibynnol i amddiffyn hawliau plant".

Mae gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc i gynrychioli'u buddiannau ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol gydag ystod o gyrff.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Peter Clarke, y Comisynydd Plant cyntaf, ei benodi yn 2001.

Mae'r swydd yn para am saith mlynedd - y cyflog rhwng £90,000 a £95,000 y flwyddyn - ac mae'n agored i unrhyw un.

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Jeff Cuthbert: "Gallwn ymfalchïo bod Cymru wedi torri tir newydd yn 2001 trwy fod y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Plant...

"Hoffwn ddiolch i'r Comisiynydd presennol am ei waith rhagorol yn y swydd. Mae'r amser bellach wedi dod i ddechrau'r broses o benodi olynydd iddo.

'Gwahaniaeth'

"Rydym yn chwilio am rywun sydd am wneud gwir wahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru a gwneud yn siŵr bod clust i wrando ar eu pryderon a'u gofidiau."

Ym mis Chwefror cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer adolygiad annibynnol o rôl a diben Comisiynydd Plant Cymru.

Roedd Mr Towler wedi galw am adolygiad i adlewyrchu'r datblygiadau a'r newidiadau yng Nghymru ers sefydlu ei swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Mai 19.