Tri cyngor yn rhyddhau manylion cyfrinachol pobl
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi iddi ddod i'r amlwg bod data nifer o bobl wedi cael ei ryddhau drwy ddamwain gan gynghorau Cymreig.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cadarnhau fod ganddyn nhw bryderon fod cynghorau Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Torfaen wedi rhyddhau gwybodaeth ddylai fod yn gyfrinachol.
Cafodd y wybodaeth, oedd ar eu cofrestrau etholiadol, ei basio i asiantaethau gwirio credyd mewn modd gwallus oherwydd nam mewn meddalwedd.
Mae'r cynghorau i gyd wedi cymryd camau i geisio dadwneud y difrod.
Y gofrestr
Mae gan asiantaethau gwirio credyd yr hawl i brynu manylion sydd ar y fersiwn lawn o'r gofrestr etholiadol, er mwyn galluogi benthycwyr i sicrhau nad yw pobl yn torri'r gyfraith.
Ond yn ôl Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, "mae'n drosedd i unrhyw un sydd â chopi lawn o'r gofrestr etholiadol i basio'r wybodaeth yma ymlaen i eraill, os nad oes ganddyn nhw reswm cyfreithiol i'w weld".
Mae'r fersiwn wedi ei olygu o'r gofrestr yn cynnwys yr un manylion a'r gofrestr lawn - mae'r gofrestr hon yn cael ei gyhoeddi unwaith y flwyddyn ac mae'n gallu cael ei werthu i unrhyw unigolyn neu gwmni am ba bynnag reswm.
Mae gan bawb yr hawl i atal y wybodaeth amdanyn nhw rhag cael ei gynnwys ar y gofrestr yma.
Experian yw'r cwmni wnaeth dderbyn y data, ac maen nhw'n dweud y gallai olygu fod pobl yn derbyn deunydd masnach dydyn nhw ddim ei eisiau.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Oherwydd problem gyda meddalwedd trydydd parti sy'n cael ei ddefnyddio gan nifer fach o awdurdodau lleol, doedd rhai o'r cofnodion heb gael eu marcio fel 'wedi optio allan'...
"Yn ôl yr hyn rydym yn ddeall gan y cwmni meddalwedd, mae'r nifer o bobl sy'n debygol o fod wedi eu heffeithio yn isel iawn, hynny yw rhwng 10 a 100 ymhob awdurdod lleol sydd wedi ei effeithio."
Rhondda
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud bod manylion o'r rhestr etholiadol llawn wedi cael eu rhyddhau ym mis Mawrth ond heb y marciau sydd eu hangen i ddangos pwy fydd wedi dewis peidio bod ar y fersiwn wedi'i olygu.
Mae'r cyngor wedi dweud wrth bobl sy'n byw yn yr ardal na fedran nhw fod yn sicr a oes gwybodaeth am unrhyw un wedi cael ei rhyddhau ond eu bod wedi ceisio cywiro'r camgymeriad yr eiliad y daeth i'r amlwg.
Fe wnaeth Cyngor RCT gyfeirio eu hunain yn wirfoddol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac fe fydd y cyngor yn dechrau ymchwiliad mewnol i'r sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r cyngor yn ymddiheuro am y camgymeriad, ond yn credu ei fod wedi cymryd camau cyflym i ddelio â'r sefyllfa cyn gynted a daeth i'r amlwg."
Caerffili a Thorfaen
Mae Cyngor Caerffili wedi dweud eu bod nhw'n meddwl mai 23 o bobl sydd wedi cael eu heffeithio yn eu hardal nhw.
Fe wnaethon nhw gysylltu â'r asiantaethau gwirio credyd yn syth i esbonio beth oedd wedi digwydd, ac i ddarparu cofrestr newydd.
Mae'n debyg mai pedwar o bobl sydd wedi eu heffeithio yn Nhorfaen.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Fe gafodd y data ei gywiro yn syth wedi i ni ddod yn ymwybodol o'r broblem.
"Rydym yn ysgrifennu at y bobl sydd wedi cael eu heffeithio er mwyn eu hysbysu o'r mater."
Ymchwiliad
Bydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth nawr yn cynnal ymchwiliad er mwyn ceisio dod i wraidd beth aeth o'i le.
Dywedodd llefarydd ar ran y swyddfa: "Dylid defnyddio fersiwn llawn y gofrestr etholiadol ond ar gyfer etholiadau, atal a chanfod troseddu a gwirio ceisiadau am gredyd.
"Mae unrhyw awgrym ei fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion eraill yn codi pryderon amddiffyn data amlwg.
"Mi fyddwn yn ymchwilio i weld os oes data wedi ei ryddhau yn Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn yn cynnwys ystyried os oes gan hyn oblygiadau ar gyfer cynghorau eraill."
Straeon perthnasol
- 10 Ebrill 2014