Saethu ei wraig: dyn yn wynebu achos llys

  • Cyhoeddwyd
Caroline Parry
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Caroline Parry o'i hanafiadau

Bydd Christopher Parry, 49 oed o Gasnewydd, gafodd ei gyhuddo o lofruddio ei gyn wraig, yn sefyll ei brawf ym Mehefin.

Bu farw Caroline Parry, 46 oed, ym mis Awst 2013 cyn i Mr Parry geisio lladd ei hun.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod yn derbyn gofal mewn ysbyty yn Y Fenni, Sir Fynwy.

Roedd y fam i ddau wedi marw ar ôl cael ei saethu yng ngolau dydd ger ei chartref yng Nghasnewydd.

Daeth yr heddlu o hyd i Mrs Parry a'i gŵr yn gorwedd ar y ffordd wedi i gymdogion glywed gwn yn cael ei saethu.

Aed ag e i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol i'w ben lle cafodd ei drin o dan oruchwyliaeth yr heddlu.

Bu'n rhaid i dditectifs aros dros fis cyn ei fod yn ddigon da i gael ei holi.

Mae wedi pledio'n euog i gyhuddiad o dan Ddeddf Arfau 1968, bod â gwn neu wn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflawni trosedd.

Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y saethu ym mis Awst 2013.

Clywodd cwest, gafodd ei agor a'i ohirio, fod Caroline Parry wedi cael ei saethu yn ei chefn.