Sion a Siân: Hanner canrif o raglen gwis hynaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae wedi newid ei delwedd a'i chyflwynwyr dros y blynyddoedd ond dyw elfennau gwreiddiol y rhaglen Sion a Siân ddim wedi newid ers 50 mlynedd.
Er bod y cwis poblogaidd wedi ei ddarlledu ar ddwsinau o sianeli dros y byd, y gynulleidfa Gymraeg oedd y cyntaf i werthfawrogi'r gyfres ar y teledu. Sut digwyddodd hynny?
Mae hanes cynnar y rhaglen yn cynnwys hanes un o'r digwyddiadau mwyaf syfrdanol yn hanes teledu annibynnol ym Mhrydain.
Roedd Euryn Ogwen Williams yn fyfyriwr tlawd yn gadael y coleg ym Mangor a chafodd gynnig swydd yn TWW :
"Roedd y cwmni annibynnol oedd yn gyfrifol am ddarlledu yng Nghymru ar y pryd, sef TWW ( Television Wales & West ) newydd ennill ei le fel yr unig ddarlledwr annibynnol oedd bellach yn cynhyrchu rhaglenni Cymraeg.
"Roedd hyn oherwydd iddo dderbyn y cyfrifoldebau darlledu oedd yn arfer cael eu cyflenwi gan gwmni Teledu Cymru (Television Wales & North) oedd wedi mynd i'r wal ar ôl naw mis o ddarlledu ( yr unig gwmni teledu annibynnol i fynd i'r wal). O dderbyn y cyfrifoldebau hynny ac felly mewn effaith ennill yr hawl i ddarlledu yn nhiriogaeth Cymru'n gyfan gwbl, mi wnaeth cwmni teledu Granada o ogledd Lloegr roi'r gorau i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg gan adael y cyfrifoldeb hwn bellach i TWW."
Sianel deledu i Gymru
Yn 1964 roedd TWW wedi ei sefydlu felly fel gorsaf deledu annibynnol Cymru, yn cynhyrchu rhaglenni newyddion a chwisiau yn bennaf o dan reolaeth y pennaeth rhaglenni Wyn Roberts (y diweddar Arglwydd Roberts o Gonwy)
Roedd Wyn Roberts yn ddarlledwr greddfol oedd yn deall pwysigrwydd rhaglenni newyddion a dogfen ond hefyd yn parchu a hybu rhaglenni poblogaidd adloniant ysgafn. Ar ei law dde roedd Dorothy Williams, oedd yn gweithredu fel pennaeth rhaglenni Cymraeg, ac roedd hi'n cydweithio'n agos gyda Wyn Roberts i geisio creu amrywiaeth darlledu eang trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roy Ward Dickson
Roedd TWW a Wyn Roberts â chysylltiad agos gyda gŵr o Ganada oedd yn arbenigo mewn datblygu a gwerthu syniadau rhaglenni newydd; cwisiau yn bennaf. Roedd Roy Ward Dickson yn llwyddiannus iawn yn y maes a dyfeisiodd TWW sustem effeithiol iawn o roi'r cyfle iddo brofi nifer o'r rhaglenni trwy brynu hawliau Cymraeg y fformat yn fyd eang. Byddai TWW wedyn yn cynhyrchu cyfres neu ddwy o'r rhaglen yn Gymraeg, ac os yn llwyddiannus, rhoi platfform i ddefnyddio'r hawliau Prydeinig ar gyfer y fersiwn Saesneg.
Dyma sut y daeth Sion a Siân i'r sgrin yn y Gymraeg yn gyntaf cyn cael ei datblygu'n nes ymlaen i Mr & Mrs a'i gwerthu dros y byd. Roedd hi ar y pryd yn ffordd ymarferol a chymarol râd o beilota rhaglen deledu. Pan ddaeth TWW i ben arhosodd yr hawliau gyda chwmni newydd HTV. Erbyn hyn ITV Wales sy'n gyfrifol am yr hawliau Cymraeg.
Pobl Sion a Siân
Cyflwynydd cyntaf y rhaglen oedd cigydd lliwgar o Ystalyfera, Dewi Richards. Yn ei gynorthwyo roedd Meriel Davies, gwraig y neidiwr hir Olympaidd Lynn Davies. Roedd y gyfres gyntaf yn llwyddiant ysgubol. Oherwydd hynny penderfynodd Wyn Roberts fynd ar ail gyfres ar daith o gwmpas neuaddau Cymru. Roedd hyn yn achosi problemau i Meriel oedd hefyd yn athrawes.
Roedd rhaid felly dod o hyd i rywun arall i gyd-gyflwyno gyda Dewi. Roedd Jenny Ogwen wedi bod yn gweithio fel ysgrifenyddes yn Llundain cyn iddi hi gael y cynnig:
"Gethon ni lot o sbort ar y daith a wedd pethe'n lot fwy syml bryd hynny na nawr. Y jacpot i'r cwpwl buddugol fyddai can punt a fi'n cofio cael lifft gyda'r ysgrifenyddes Shan Davies yn ei hen A35 a mynd o le i le gydag amlen yn llawn arian yn fy nghôl i dalu gwobr i bobl.
"Fi'n cofio Eirwen Davies (aeth ymlaen i gyflwyno'r Dydd - y cyflwynydd newyddion benywaidd cyntaf ym Mhrydain) ac Elinor Mathias yn gorfod chwilio am barau i gymryd rhan... jobyn anodd ar y dechrau pan oedd pawb yn rhy shei i fod ar y teledu a ddim yn gwybod yn iawn beth i ddisgwyl"
Ta Ta TWW
Ond yn 1968 ddaeth newid ar fyd allai wedi bod yn ddiwedd cynnar ar y rhaglen. Collodd TWW y drwydded i ddarlledu yng Nghymru i gwmni Harlech. Yn ôl Euryn Ogwen :
" Roedd yr hyn ddigwyddodd nesa bron yn Stalinaidd gyda Harlech yn awyddus i ddileu unrhyw arwydd fod TWW erioed wedi bodoli. Roedd Harlech yn cyfri ei hun yn fwy uchel ael ac yn awyddus i bellhau o'r ddelwedd rhaglenni cwis a osodwyd gan TWW"
Ond, llwyddodd Sion a Siân i oroesi gyda chyflwynydd newydd i newid delwedd y rhaglen. Roedd Ifor Bowen Griffith yn faer Caernarfon ond doedd y fformat ddim yn siwtio I.B. Felly cafodd yr awennau eu rhoi yn nwylo awennau ffermwr ifanc o Lanilar oedd hefyd yn canu rhyw dipyn.
Dai a Jen?
Ac felly rhwng 1971 a 1987 dyma ddechrau oes aur Sion a Siân ac er bod llawer o'r farn mai Dai Jones a Jenny Ogwen oedd hoelion wyth y rhaglen, nid felly oedd hi yn ôl Jen :
"Roedd HTV yn newid menywod Dai drwy'r amser. Ro'dd e 'da Sarah Tudor, Mari Emlyn, Rosalind Lloyd, Mair Rowlands... o'n nhw'n newid drwy'r amser. Ond yn y diwedd 'naethon nhw fennu lan gyda fi... fel rhyw fath o boomerang."
Ac mae'r rhaglen yn dal yma. O Dai Jones a Jenny, trwy Ieuan Rhys a Gillian Elisa ac i'r presennol gyda Stifyn Pari a Heledd Cynwal. Mae Sion a Siân yma o hyd.
Rhaglen deledu sydd wedi bodoli yn y Gymraeg bron ers dechrau darlledu yn yr iaith ac yn sicr drwy gydol pinaclau darlledu Cymraeg. Er bod y fformat yn hen ffasiwn, mae'r gyfres yn dal i fod yn boblogaidd.
Mae Dai Jones wedi canu'r hen gan "Pwy fydd yma mewn can mlynedd?" mewn neuaddau ar hyd a lled Cymru. Pwy fydda'n mentro dweud na fydd Sion a Siân yn cyrraedd y garreg filltir honno hefyd?