Pwy fydd Miss Cymru 2014?
- Cyhoeddwyd

Mi fydd cystadleuaeth Miss Cymru 2014 yn cael ei chynnal yn Theatr y Princess Royal ym Mhort Talbot.
Bydd 46 o ferched yn cystadlu er mwyn ennill y fraint o gael cynrychioli Cymru fel llysgennad.
Gabrielle Shaw o Riwabon ger Wrecsam oedd yn fuddugol y llynedd ac mae wedi bod mewn digwyddiadau elusennol ac yn rhan o seremoni agoriadol Cwpan Heineken yn Toulon.
Mae trefnwyr y gystadleuaeth yn dweud mai'r prif nod yw codi arian at achosion da drwy gyfrwng "prydferthwch gyda phwrpas".
'Codi arian'
Un sy'n edrych ymlaen at gystadlu yw Hanna Gwyn o Fethel ger Caernarfon.
Wrth sgwrsio gyda Dylan Jones fore Gwener, dywedodd: "Hwn ydi'r tro cynta' i mi gystadlu, a'r prif reswm yw i godi arian ar gyfer elusen achos 'dw i wedi bod yn gweithio efo elusennau ers blynyddoedd.
"Er enghraifft, yn ddiweddar mi wnes i fodio i Croatia ar gyfer elusennau gwahanol."
Dywedodd mai un rhan o'r gystadleuaeth yw'r pasiant prydferthwch.
"Dydi o ddim amdan sut ydych chi'n edrych - mae'n gymaint mwy na hynny," meddai.
"Ddoe mi gafon ni empowerment day i gael pobl i deimlo'n fwy hyderus a sicr ynddyn nhw eu hunain, hynny yw stopio meddwl am be' mae pobl eraill yn feddwl - ac i fynd allan yna ac, os ydych chi efo targed, i gyrraedd eich targeda."
Yn fuddugol
Mae merched o Gymru wedi bod yn fuddugol yn y gystadleuaeth ryngwladol, Miss World, ddwywaith yn y gorffennol.
Rosemarie Frankland oedd y gyntaf yn 1961, yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth Helen Morgan, yn enedigol o'r Barri, efelychu'r gamp yn 1974, ond bu raid iddi ymddiswyddo wedi i drefnwyr y gystadleuaeth ddarganfod ei bod yn fam ddi-briod.