Cerflun newydd o oleudy i Dalacre yn y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae darn trawiadol o waith celf ar ffurf goleudy ar gylchfan ger traeth Talacre wedi'i ddadorchuddio'n swyddogol gan Gyngor Sir y Fflint.
Crewyd y goleudy gan yr arlunwyr Craig a Mary Matthews ym Mhenbedw.
Bu'r Cyngor yn gweithio gyda Phwyllgor Grŵp Llywio a Gwaith Celf Talacre a Phartneriaeth Wledig Sir y Fflint yn ogystal ag ymgynghori â'r gymuned leol ar y prosiect.
Gwaith celf parhaol
Yn y pen draw, y gobaith ydi gosod gwaith celf parhaol mewn tri lle arall yn Nhalacre a Gronant Isaf.
Meddai John Les Tomos, Cadeirydd Partneriaeth Wledig Sir y Fflint: "Mae'n wych cael gwaith celf cyhoeddus i adfywio a denu ymwelwyr i'n hardaloedd gwledig ac mae gan yr ardal wledig lawer o adnoddau y dylen ni fod yn falch iawn ohonynt."
Yn ôl y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: "Mae hwn yn ychwanegiad gwych i'r ardal ac mae'n edrych yn syfrdanol ar y gylchfan.
''Mae miloedd o bobl yn ymweld â Thalacre pob blwyddyn a bydd y gwaith celf yn gwella'u profiad ac yn creu amgylchedd ysbrydoledig i drigolion lleol."
'Atyniad lleol'
Meddai llefarydd ar ran cwmni Parc Traeth Gwyliau Talacre, oedd yn noddi'r gylchfan: "Rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r gwaith celf newydd. Mae'r cerflun o'r goleudy eisoes wedi cael ei ganmol gan ymwelwyr... ac mae'n brysur dod yn gymaint o atyniad lleol â goleudy gwreiddiol Traeth Talacre.
''Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cerflun yn ein helpu i groesawu ymwelwyr newydd i Dalacre ac yn dirnod y bydd rhai sy'n dychwelyd yn falch o'i weld."
Cafodd y prosiect arian trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.