Christine Chapman AC i sefyll i lawr fel aelod y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Christine Chapman AC
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Christine Chapman AC yn sefyll i lawr yn 2016

Mae Christine Chapman, aelod y Cynulliad dros Gwm Cynon, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd yn etholiad 2016.

Mae Ms Chapman wedi cynrychioli'r blaid Lafur fel aelod y Cynulliad ers 1999.

Dywedodd: ''Mae wedi bod yn fraint anferth i weithio ar ran pobl Cwm Cynon.''

Hi oedd y Dirprwy Weinidog dros Addysg, Cyllid a Llywodraeth Leol o 2005 i 2007 ac yn 2000 hi oedd Dirprwy Ysgrifennydd Addysg a Datblygu Economaidd.

Mae hi wedi cadeirio Pwyllgor Monitro Amcan Un y Cynulliad ac fe gynrychiolodd y Cynulliad ar Bwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel am chwe blynedd.

Mae hi ar hyn o bryd yn gadeirydd grwp traws-bleidiol Merched yn yr Economi.

Yn gyn-weithiwr ieuenctid ac athrawes ysgol, mae Ms Chapman wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros ymgyrch 'Sdim Curo Plant!' i wahardd taro plant.