Tân mewn ysgol 'yn fwriadol'
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr wedi bod yn delio a thân gafodd ei gynnau'n fwriadol yn Ysgol Cil-y-Coed yn Sir Fynwy.
Yn ôl Gwasanaeth Tân De Cymru, roedd y tân "yn amlwg wedi ei dechrau'n fwriadol", a gallai fod wedi arwain at ddifrod gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae Heddlu Gwent yn credu bod y tân wedi ei ddechrau gan rywun yn rhoi'r llenni ar dân.
Dywedodd yr Arolygydd Christopher Haire: "Mae rhywun wedi rhoi rhywbeth drwy'r ffenest ac wedi cynnau'r llenni tu ôl i'r ffenest."
Ychwanegodd bod swyddogion yn edrych ar deledu cylch cyfyng ac yn cynnal ymchwiliadau yn y pentref.
'Gwerth miliynau o ddifrod'
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 8:15yb gan staff canolfan hamdden gyfagos oedd ar eu ffordd i'r gwaith.
Mi gafodd pedwar criw eu gyrru yno ac fe lwyddodd y diffoddwyr i ddiffodd y tân cyn iddo ymledu o swyddfa ar y llawr gwaelod.
Dywedodd Matt Jones, sy'n rheolwr ar orsaf dân fu'n cynorthwyo yng Nghil y-coed: "Os na fyddai'r larwm wedi cael ei godi, mi fyddai difrod difrifol wedi cael ei achosi i'r ysgol.
"Os na fydden ni wedi ymyrryd, bydden ni'n edrych ar sefyllfa wahanol nawr.
"Roedd hwn yn dân oedd yn amlwg wedi cael ei gynnau'n fwriadol ac roedd y posibiliad o achosi gwerth miliynau o bunnoedd o ddifrod yn agos iawn."
Mae'r awdurdodau'n credu fod rhywrai wedi cael mynediad i'r ysgol drwy ffenestr ac yna wedi cynnau'r tân yn y swyddfa.