Marcelina Dabek o Wlad Pwyl yn ennill telyn Gymreig
- Cyhoeddwyd

Mae merch ifanc o Wlad Pwyl wedi ennill telyn arbennig yn yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yng Nghaernarfon.
Roedd beirniaid yr ŵyl yn unfryd mai Marcelina Dabek, sy'n 11, oedd telynores fwyaf addawol yr ŵyl.
Mae Marcelina wrth ei bodd yn chwarae'r delyn, ond nid oedd ganddi un ei hun oedd yn golygu ei bod wedi bod yn cael gwersi yn ei hysgol gynradd a'r ysgol gerdd yn Warsaw bob dydd heblaw ar y Sul.
Yn ôl ei mam, Marika Gwaiazdowska, roedd Marcelina'n falch iawn o ennill y wobr.
"Rwan bod ganddi ei thelyn ei hun, mi fydd hi'n gallu cynhesu ei bysedd ac ymarfer rhyw ychydig adref," meddai.
Y Catrin Finch nesaf?
Cafodd y delyn ei gwneud yn arbennig gan Telynau Teifi o Landysul, a chafodd ei rhoi fel anrheg i'r ŵyl gan y Tywysog Charles.
Er nad Marcelina ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth dan 13 oed, fe wnaeth ei pherfformiad hudo'r gynulleidfa a'r beirniaid yn ôl cyfarwyddwyr yr ŵyl Elinor Bennett.
"Fe wnaeth Marcelina swyno'r gynulleidfa a'r beirniaid efo'i pherfformiad yn y cylch cyntaf," meddai.
"Mae'n fy atgoffa o Catrin Finch yn ifanc gyda'i dull bywiog a rhwydd o chwarae, a phan ddywedais i wrthi ei bod wedi ennill y delyn doedd hi ddim yn fy nghoelio i ac fe wnaeth ei mam ddechrau crio!"
Yn dilyn ei pherfformiad fe dderbyniodd Marcelina wahoddiad i gystadlu mewn cystadleuaeth fawreddog arall y flwyddyn nesaf, gan drefnwyr Gŵyl Delynau Rhyngwladol Gwlad Tai.