Abertawe 4 - 1 Aston Villa

  • Cyhoeddwyd
Brad Guzan
Disgrifiad o’r llun,
Doedd dim oedd Guzan yn gallu ei wneud ond gwylio'r bêl yn taro cefn y rhwyd

Fe sgoriodd Jonjo Shelvey gôl anhygoel wrth i Abertawe guro Aston Villa yn Stadiwm y Liberty o bedair i un.

Wedi rheoli'r bêl yng nghanol y cae, pan roedd y sgôr yn un gôl yr un, fe edrychodd Shelvey i fyny a tharo'r bêl i'r awyr. Roedd digon o bŵer yn yr ergyd i fynd a hi dros gôl-geidwad Villa ac yn syth i gefn y rhwyd.

Bydd pobl yn siŵr o'i chymharu gyda gôl Wayne Rooney yn erbyn West Ham yn gynharach yn y tymor, gyda dadlau ynglŷn â ph'run yw'r gorau yn anochel.

Mae'r canlyniad yn sicrhau lle Abertawe yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesaf.

Gêm gyffrous

Yr Elyrch sgoriodd gyntaf diolch i bas wych gan Shelvey, wnaeth ddarganfod Wilfried Bony a lwyddodd i rwydo'n weddol rwydd.

Ond tarodd Villa nôl rhyw ugain munud fewn i'r gêm - Gabriel Agbonlahor yn sgorio o chwe llath wedi croesiad pwerus Marc Albrighton .

Daeth gôl Shelvey lai na phum munud yn ddiweddarach, ac fe arhosodd hi'n 2-1 tan yr egwyl, er y gallai'r Elyrch fod wedi sgorio mwy.

Fe ddechreuodd tîm Garry Monk yn gryf yn yr ail hanner, gyda Bony'n rheoli'r gêm i ddechrau ac yna Hernandez yn dangos ei ddoniau.

Shelvey ar dân

Daeth y drydydd gôl, oedd yn teimlo'n anochel, gyda Pablo Hernandez yn gorffen yn daclus i goroni perfformiad i'w gofio.

Jonjo Shelvey wnaeth ddarparu'r bas unwaith eto.

Bydd Garry Monk, neu'r rheolwr nesa os yw'r cadeirydd Huw Jenkins yn penderfynu cael rhywun yn ei le, yn siwr o wneud cadw Shelvey'n flaenoriaeth dros yr haf.

Fe wnaeth cic o'r smotyn Wilfried Bony ar 90 munud goroni prynhawn campus arall i'r Elyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr.