Pontypridd 22 - 22 Leinster

  • Cyhoeddwyd
Simon Humberstone kicks a goal for PontypriddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Fe sgoriodd Simon Humberstone 17 o bwyntiau i Bontypridd

Roedd drama mawr ym Mhontypridd brynhawn Sadwrn, wrth i'r tîm cartref fethu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon er gwaetha'r ffaith eu bod nhw heb golli.

Yn wir, roedd yn edrych fel bod eu breuddwyd o ennill y trebl am barhau, gan eu bod 22-15 ar y blaen wrth i law y cloc gropian heibio'r 80fed munud.

Ond fe gafodd saith munud o amser ychwanegol ei chwarae, ac fe lwyddodd y Gwyddelod i sgorio cais a throsiad ar yr 87fed munud er mwyn mynd a'r gêm i amser ychwanegol.

Ni fu mwy o bwyntiau yn ystod yr ugain munud nesaf, oedd yn golygu bod y gêm yn gorffen yn gyfartal.

Yn anffodus i Bontypridd, roedd hynny'n golygu eu bod nhw allan o'r gystadleuaeth, gan mai'r tîm sgoriodd y nifer uchaf o geisiau yn ystod y gêm oedd yn cael mynd ymlaen i'r rownd derfynol.

Pontypridd lwyddodd i gael y pwyntiau cyntaf ar y bwrdd, er mai'r ymwelwyr oedd yn pwyso fwyaf yn ystod y munudau agoriadol.

Gêm agos

Aeth Joel Raikes a'r bêl dros y llinell ar ôl ei dal wedi iddi fownsio, ac wnaeth Humberstone ddim camgymeriad gyda'r gic.

Ni lwyddodd yr un o'r ddau dim i reoli'r gêm yn llwyr, ac roedd hi'n ornest agos tan y diwedd.

Doedd rhai o gefnogwyr y tim cartref methu â cheolio faint o amser ychwanegol gafodd ei ganiatau ar ddiwedd y gêm, ond roedd hyfforddwr Pontypridd Gareth Wyatt yn fwy athronyddol am y sefyllfa.

"Mae'r pedwerydd swyddog yn cadw amser ac mae'n rhaid i ni fynd gyda beth maen nhw'n ddweud," meddai.

"Os faswn i'n Leinster mi faswn i wedi bod yn falch o'r amser, weithiau mae pethau yn mynd y ffordd yna.

"Mae'n siom oherwydd ni heb golli'r gêm, ond yn anffodus oherwydd y rheolau ni sy'n mynd mas."

Er nad yw'r trebl bellach o fewn cyrraedd Pontypridd, mae ganddyn nhw dal ddwy rownd derfynol i'w chwarae yn fuan sef yn yr Uwch-gynghrair a Chwpan Swalec.