Glyn Evans wedi marw yn 70
- Cyhoeddwyd

Mae'r newyddiadurwr a chyn olygydd Y Cymro Glyn Evans wedi marw yn 70 oed, ar ôl salwch byr.
Roedd yn wreiddiol o Ynys Môn ond treuliodd ran helaeth o'i fywyd ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych.
Fe fu Mr Evans yn gweithio i wasanaeth ar-lein y BBC a'r Herald Cymraeg yn ystod gyrfa hir a llwyddiannus.
Er ei fod wedi ymddeol, roedd yn parhau i fod yn weithgar - roedd yn ysgrifennu blog ac yn gyfrifol am gyhoeddi cylchgrawn ar gyfer Cymry ar wasgar yn rhinwedd ei gyfrifoldeb fel golygydd Yr Enfys.
Mae'r newyddiadurwr blaenllaw Gwilym Owen, oedd yn gyfaill i Mr Evans, wedi ei ddisgrifio fel "llenor a newyddiadurwr arbennig o dda".
"Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn llenyddiaeth Cymru, roedd o wedi ysgrifennu cyfrol neu ddwy ei hun, ac roedd yn ddychanwr o fri - roedd yn gallu cymryd golwg chwareus ar newyddion yng Nghymru a rhoi pin mewn ambell i swigen.
"Doedd dim byd creulon am Glyn ond roedd ganddo'r ddawn i weld ochr ysgafn petha' a dweud ei ddeud mewn ffordd gryno iawn, iawn."
Roedd gan Mr Evans "arddull arbennig o ysgrifennu, ac roedd yn gallu gweithio'n gyflym iawn - roedd yn godwr bora mawr, roedd yn licio bod yn ei waith erbyn hanner awr wedi pump i chwech bob bora, ac yno roedd o wrth ei ddesg cyn i eraill godi".
Yn ôl Mr Owen, roedd yn "berffeithydd o newyddiadurwr Cymraeg".
Er cystal safon ei waith, doedd Mr Evans ddim yn un uchel ei gloch, a doedd o "ddim yn licio gormod o ryw ffỳs a sylw".
Ond roedd yn ddigon parod i dalu teyrnged i bobl roedd yn ei edmygu, ac roedd ganddo "gylch mawr o gyfeillion ac edmygwyr".
'Dyn caredig a diymhongar'
Dywedodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd, a weithiodd gyda Glyn Evans ar Y Cymro:
"Mi oedd Glyn Evans yn newyddiadurwr gwych. Roedd ganddo bob amser chwilfrydedd naturiol a'r gallu cynhenid i ddweud stori gan ddeall yn union beth fyddai'n apelio at ei ddarllenwyr.
"Roedd ei gyfraniad i'r Cymro am flynyddoedd yn gwbl allweddol, ac ar ôl hynny, ei gyfraniad i BBC Cymru hefyd.
"Roedd yn awdur ac yn adolygydd praff, a chanddo hiwmor direidus. Mi oedd Glyn hefyd yn ddyn caredig a diymhongar ac mae ein meddyliau gyda'i deulu."
Roedd Mr Evans yn eisteddfodwr brwd ac roedd o'n aml i'w weld yn cerdded o amgylch y maes gyda'i bensel a'i bapur yn chwilio am stori.
Nos Sadwrn fe wnaeth cyfrif swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol drydar: "Fydd wythnos y 'steddfod ddim yr un fath heb Glyn Evans. Colled fawr ar ei ôl yn ystod yr wythnos a thaith y wasg. Diolch am ei gyfraniad."
Roedd Glyn Evans yn ŵr gweddw ac mae'n gadael dwy ferch a mab ar ei ôl.