Efrog 1 - 0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Michael Coulson
Disgrifiad o’r llun,
Cic rydd Coulson oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm

Roedd Casnewydd llawn cystal â'r tim sy'n brwydro am ddyrchafiad.

Cic rydd wych gan Michael Coulson oedd yr unig wahaniaeth rhwng y ddau glwb ar y dydd.

Doedd dim byd oedd Ian McLoughlin, golwr Efrog, yn gallu ei wneud pan grymanodd Coulson y bêl rownd y wal o ryw 25 i 30 llath yn syth i gefn y rhwyd.

Mae Casnewydd yn 15fed yn y gynghrair, yn ddigon pell o safleoedd y cwymp ond gyda safleoedd y gemau ail gyfle hefyd tu hwnt iddyn nhw.

Mi fyddan nhw'n chwarae gêm olaf eu tymor gartref yn erbyn Rochdale - y tîm sydd ar frig y gynghrair - ar Fai 5.