Abertawe i lawr am y tro cyntaf erioed

  • Cyhoeddwyd

Mae Abertawe wedi llithro o uwch-gynghrair rygbi clybiau Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Er iddyn nhw lwyddo i guro Castell Nedd 26-0 a chael y pwynt bonws roedden nhw angen i roi cyfle iddyn nhw oroesi, roedd canlyniadau eraill yn golygu y bydd Abertawe yn chwarae ym Mhencampwriaeth Swalec y flwyddyn nesaf.

Roedd Abertawe ymysg y pedwar olaf yn y Gwpan Ewropeaidd yn '96, gan golli i Toulouse yn y diwedd, ac fe enillon nhw'r gynghrair nôl yn 2001.

Mae'r clwb wedi ennill pob math o wobrau ers iddyn nhw gael eu sefydlu 140 o flynyddoedd yn ôl, yn ogystal â churo Awstralia yn '66 a dal Seland Newydd y gêm gyfartal yn '53.

Ond yn ail adran cynghrair Cymru fyddan nhw'n chwarae yn nhymor 2014-15, wrth iddyn nhw barhau i'w chael hi'n anodd addasu i dirwedd newydd y gêm Gymreig.

'Ddim yn ddigon'

Ar ddiwedd y gêm yn erbyn Castell Nedd, dywedodd y prop Matthew Norman: "Ro'n ni'n gwybod odd e yn mynd i fod yn galed, ond yn gyntaf roedd rhaid ennill heddi' a gobeithio bod Aberafan yn cael dim byd yn gêm nhw.

"Ond y peth cyntaf oedd gwneud yn siŵr ein bod yn maeddu Castell Nedd, dyna'r unig beth oedden yn gallu ei wneud yn swydd ni heddiw, ond yn anffodus doedd e ddim digon.

"Mae'r bois yn hapus gyda'r fuddugoliaeth ond ni'n gwybod ein bod ni wedi gorffen ar y gwaelod hefyd."

Mae Norman yn gobeithio gweld y garfan yn aros gyda'i gilydd wrth iddyn nhw geisio brwydro'u ffordd yn ôl i'r uwch-gynghrair.

"Ond gawn ni weld be sy'n digwydd nawr," meddai.