Comisiwn etholiadol yn ymddiheuro
- Cyhoeddwyd

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi ymddiheuro ar ôl gadael i enw'r milwr Lee Rigby i ymddangos ar bapurau pleidleisio yng Nghymru.
Fe roddodd y comisiwn ganiatâd i Britain First i ddefnyddio'r geiriau "cofiwch Lee Rigby" ar y papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau Ewrop ym mis Mai.
Mae swyddogion o'r comisiwn wedi cysylltu â theulu Lee Rigby er mwyn ymddiheuro am achosi loes.
Ond nid oes modd newid y papurau pleidleisio cyn yr etholiad ar Fai 22.
Ymddieuriad
Mae Britain First yn disgrifio ei hun fel "plaid wleidyddol wladgarol a street defence organisation" ac mae wedi enwebu pedwar aelod i sefyll yn yr etholiad yng Nghymru.
Yng Nghymru yn unig fydd y slogan yn ymddangos ar y papurau pleidleisio - mae'r blaid yn defnyddio disgrifiad arall yn yr Alban a dydyn nhw ddim yn ymgeisio yn Lloegr yn yr etholiad hwn.
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol: "Rydym newydd sylweddoli'r camgymeriad yma ac yn rhyddhau'r datganiad hwn nawr ar ôl siarad gyda theulu Lee Rigby."
Ychwanegodd cadeirydd y comisiwn, Jenny Watson: "Mae'n ddrwg iawn gan y Comisiwn Etholiadol am y loes sydd wedi ei achosi ac rydw i wedi ymddiheuro i deulu Lee Rigby.
"Rydym yn ymddiheuro'n enwedig am y boen fydd hyn yn ei achosi iddyn nhw, yn enwedig gan fod diwrnod y pleidleisio'n digwydd union flwyddyn ar ôl llofruddiaeth Rigby.
"Ni ddylai'r disgrifiad roedd Britain First wedi ei gofrestru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai, 'cofiwch Lee Rigby', fyth fod wedi cael ei ganiatáu.
"Rydym yn ymddiheuro am y ffaith fod y ornderfyniad wnaethom ni yn golygu y bydd pleidleiswyr yng Nghymru nawr yn gweld y disgrifiad ar y papur pleidleisio.
"Rydym wedi edrych yn ofalus ar be all gael ei wneud i atal hyn rhag digwydd, ac mae'n edifar gennym ein bod wedi methu darganfod ffordd i newid y papurau pleidleisio."
Carchar am oes
Cafodd y Ffiwsilwr Rigby o Middleton, ger Manceinion, ei lofruddio wrth iddo ddychwelyd i'w farics yn Woolwich yn ne-ddwyrain Llundain ar Fai 22, 2013.
Bu farw o ganlyniad i nifer o anafiadau gafodd eu hachosi gan drywanu.
Cafwyd Michael Adebolajo, 29, a Michael Adebowale, 22, yn euog o'i lofruddiaeth wedi achos yn llys yr Old Bailey.
Cafodd Adebolajo ei ddedfrydu i garchar am oes ac mae'n apelio yn erbyn y ddedfryd. Cafodd Adebowale ei ddedfrydu i isafswm o 45 mlynedd yn y carchar.
Straeon perthnasol
- 25 Ebrill 2014