Sunderland 4 - 0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae pethau'n edrych yn ddu iawn, iawn i Gaerdydd, wedi iddyn nhw gael crasfa gan y clwb oedd ar waelod yr Uwch Gynghrair.
Yr Adar Gleision sydd bellach ar y gwaelod ac maen nhw'n cael ei hunain ddau bwynt i ffwrdd o'r tîm sydd nawr yn darganfod eu hunain yn y 17eg safle - Sunderland.
Y tîm cartref ddechreuodd gryfaf gyda Marcos Alonso a Connor Wickham yn gwneud i David Marshall weithio am ei gyflog.
Daeth Caerdydd yn ôl am gyfnod wedyn, gan ennill cyfres o giciau cornel - daeth Mats Daehli yn agos i roi ei dîm ar y blaen ar ôl darganfod ei hun mewn sefyllfa addawol, ond fe hedfanodd ei ergyd dros y traws.
Mae Wickham wedi bod ar dân yn ddiweddar, wedi iddo chwarae rhan bwysig wrth i Sunderland gael pedwar pwynt yn erbyn Man City a Chelsea, ac yn anffodus i Gaerdydd, roedd yn benderfynol o ychwanegu pluen arall i'w het.
Roedd ei beniad o gic cornel Seb Larsson yn arbennig, a doedd dim oedd Marshall yn gallu ei wneud ond edrych ar y bêl yn hedfan allan o'i gyrraedd i gefn y rhwyd.
Penderfyniad tyngedfennol
Funudau cyn yr egwyl, fe roddodd penderfyniad dadleuol y dyfarnwr Phil Dowd y gêm tu hwnt i Gaerdydd.
Methodd Cala a rheoli pêl weddol syml, a pan ddaeth Wickham y tu ôl iddo a dwyn y bel, fe dynnodd Cala ar ei grys.
Aeth Wickham ddim i lawr ac fe adawodd y dyfarnwr iddo chwarae'r fantais. Ond pan na lwyddodd Wickham i gael y fantais honno fe stopiodd Dowd y chwarae, rhoi cerdyn coch i Cala a chic o'r smotyn i Sunderland.
Wnaeth Borini ddim camgymeriad. 2-0.
Doedd dim oedd Wilfried Zaha yn gallu ei wneud yn yr ail hanner i ddod a'i dim yn ôl fewn i'r gêm.
Daeth goliau gan Borini a Giaccherini i roi gobaith go iawn i Sunderland oroesi.
Ond mae gobaith yn rhywbeth sydd wedi hen adael prifddinas Cymru, a bydd angen gwyrth ar Solskjær i gadw Caerdydd yn Uwch-gynghrair Lloegr am dymor arall.