Damwain hofrennydd Afghanistan: Cyhoeddi enwau'r pump fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enwau'r pump fu farw wedi i'w hofrennydd blymio i'r ddaear yn ne Afghanistan.
Roedd tri ohonyn nhw, y Capten Thomas Clarke, y Swyddog Gwarantedig Spencer Faulkner a'r Corporal James Walters yn gwasanaethu gyda Chorfflu Awyr y Fyddin; roedd yr Awyr-lefftenant Rakesh Chauhan yn aelod o'r Awyrlu Brenhinol a'r Is-gorporal Oliver Thomas yn aelod o'r Corfflu Cudd-ymchwil.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud ei bod hi'n ymddangos mai "damwain drasig" oedd y digwyddiad yn nhalaith Kandahar fore Sadwrn. Mae ymchwiliad ar y gweill.
Canolfan filwrol y Capten Clarke, y Swyddog Gwarantedig Faulkner, Corporal Walters a'r Awyr-lefftenant Chauhan oedd RAF Odiham yn Hampshire.
Teyrnged AS
Roedd yr Is-gorporal Thomas yn filwr wrth gefn. Roedd hefyd yn ymchwilydd i'r Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed, Roger Williams.
Dywedodd Mr Williams: "Nid yn unig oedd hi'n fraint cydweithio gydag Olly am nifer o flynyddoedd, ond rwy'n ei hystyried hi'n fraint i fod wedi gallu ei alw'n ffrind.
"Roedden ni i gyd mor falch ohono pan ymunodd e â'r Fyddin Wrth Gefn...
"Mae gan deulu Olly gymaint i fod yn falch ohono yn eu mab. Mae ein meddyliau gyda nhw ar yr amser hynod anodd hwn. Fe fyddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau yn arw."
Dywedodd ei bennaeth milwrol: "Mae'r digwyddiad trasig hwn wedi cymryd milwr ifanc, brwdfrydig a hynod abl i ffwrdd oddi wrthon ni, ac mae ei golled yn cael ei deimlo'n ddwfn gan aelodau'r uned a'r Corfflu Cudd-ymchwil yn ei gyfanrwydd.
Dywedodd ei deulu: "Roedd Oliver yn berson gwirioneddol ryfeddol, yn byw bywyd llawn tra'n gwireddu rhai o'i freuddwydion niferus."
'Angerdd at fywyd'
Roedd y capten Tom Clarke yn 30 oed ac yn dod o'r Bont Faen.
Dywedodd ei bennaeth milwrol: "Roedd y capten Thomas Clarke yn swyddog ifanc gwych, yn llawn bywyd ac yn hynod o ymrwymedig i'w filwyr a'i ffrindiau.
"Yn yr amser byr yr oedd wedi gwasanaethu yn yr uned, roedd wedi profi'n awyrennwr eithriadol, ac arweinydd di-flewyn-ar-dafod a roddodd ei hun wastad yng nghanol bywyd y sgwadron.
"Bydd ei golled yn cael ei deimlo'n aruthrol yn RAF Odiham ac o fewn Corfflu Awyr y Fyddin. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda'i wraig, ei deulu a'i ffrindiau ar yr amser mwyaf anodd hwn."
Mae ei deulu wedi cyhoeddi'r deyrnged hon:
"Allwn ni ddim mynegi'n ddigonol ein tristwch o golli gŵr, mab, brawd a ffrind gwirioneddol wych. Daeth Tom â chymaint o hapusrwydd a chariad i bawb roedd e'n ei adnabod...
"Roedd ganddo angerdd llwyr at fywyd, fe oedd y rhan orau ohonom; rydym i gyd yn dlotach heddiw hebddo."
'Uchel ei barch'
Roedd Awyr-lefftenant Rakesh Chauhan yn gwasanaethu yn Afghanistan am y trydydd tro. Yn ol ei bennaeth milwrol roedd yn swyddog "hynod ddylanwadol ac uchel ei barch, a'i frwdfrydedd a'i broffesiynoldeb yn treiddio pob agwedd o'i waith...
"Yn swyddog eithriadol, roedd hi'n amlwg fod yna ddyfodol disglair o'i flaen."
Ychwanegodd pennaeth yr uned Lynx amdano: "Yn un o ser y dyfodol yn yr Awyrlu Brenhinol, roedd Rak yn chwaraewr tîm ym mhob ystyr ac fe weithiai'n angerddol dros y rhai o'i gwmpas."
Un o'r hoelion wyth
Dywedodd pennaeth milwrol y Swyddog Gwarantedig Spencer Faulkner ei fod yntau "yn un o hoelion wyth y Sgwadron ers nifer o flynyddoedd, ac wedi gwasanaethu yn Afghanistan droeon, ble arddangosodd y cyfrwystra, arweinyddiaeth a dewrder sydd wedi ei gysylltu mor aml gyda'i Sgwadron.
"Mae colled swyddog o'i safon ac ymrwymiad yn mynd i adael bwlch enfawr yng ngwead clos yr uned ac mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda'i deulu yr oedd mor falch ohono."
Dywedodd ei deulu: Roedd Spen yn wr cariadus i Cally ac yn dad cariadus i Natasha a Jack... Mae bwlch enfawr wedi ei adael yn ein calonnau am byth."
'Proffesiynoldeb diguro'
Yn ôl ei benaethiaid, roedd y Corporal James Walters "yn filwr hynod ymrwymedig a wasanaethodd gyda rhagoriaeth... Yn uchel ei barch... roedd e wastad yn fentor a ffrind i aelodau llai profiadol yr Uned.
"Roedd ei ymarweddiad tawel yn celu ei grebwyll... ac roedd ei broffesiynoldeb yn yr awyr yn ddiguro."
Dywedodd ei deulu: "Allwn ni ddim dechrau amgyffred colled drasig gwr, tad, mab a brawd cariadus. Mae James wedi gadael twll enfawr yn ein calonnau i gyd."
Adrodd nôl
Plymiodd yr hofrennydd Lynx i'r ddaear yn ardal Takhta Pul yn Kandahar, rhyw 30 milltir o'r ffin gyda Phakistan.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y ddamwain wedi digwydd yn ystod "hediad arferol".
Mae'r Taliban wedi honni mai nhw saethodd yr hofrennydd lawr, ond dywedodd gohebydd amddiffyn y BBC Caroline Wyatt fod ei ffynonellau hithau yn awgrymu mai "problemau technegol" allai fod wedi achosi'r digwyddiad.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedd yn gwybod pa mor hir y byddai'n cymryd i ymchwilwyr adrodd yn ôl ar yr hyn ddigwyddodd.
Mae'r marwolaethau yn golygu bod cyfanswm o 453 o filwyr o Brydain wedi eu lladd yn y gwrthdaro yn Afghanistan.
Mae lluoedd Nato, gan gynnwys lluoedd y DU yn paratoi i dynnu nôl erbyn diwedd y flwyddyn, gan drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ymladd gwrthryfel y Taliban i fyddin a heddlu Afghanistan.