David Moffett yn honni y gall Cymru gynnal 5 rhanbarth
- Cyhoeddwyd

Mae cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru David Moffett yn credu y gallai Cymru gynnal pum tîm proffesiynol.
Roedd Moffett, sy'n ceisio am sedd ar fwrdd URC yn brif weithredwr yr undeb pan gafodd y Rhyfelwyr Celtaidd eu diddymu yn 2004.
Roedden nhw'n un o'r pum rhanbarth gwreiddiol ynghyd â'r Gweilch, y Scarlets, y Gleision a'r Dreigiau.
"Does yna ddim modd y gallai Cymru fyth gael 12 o dimau proffesiynol eto, ond gallai gael pump," meddai.
Moffett oruchwyliodd ddechreuadau rygbi rhanbarthol yng Nghymru yn 2003 pan gymrodd y rhanbarthau le'r 12 clwb proffesiynol.
Daeth ei sylwadau diweddaraf mewn digwyddiad a drefnodd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Roedd e wedi gobeithio trafod cyflwr rygbi yng Nghymru gyda chadeirydd URC David Pickering, ond doedd yna ddim cynrychiolydd o'r undeb yn bresennol.
Rhannodd Moffett lwyfan gyda phanel oedd yn cynnwys cyn hyfforddwr y Dreigiau Paul Turner, cyn brif weithredwr Chwaraeon Cymru Huw Jones, y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Non Evans a chyn asgellwr Cymru Nigel Walker, a gadeiriodd y ddadl.
'Camgymeriadau'
Cyfaddefodd Mr Moffett ei fod wedi "gwneud camgymeriadau" yn ystod ei gyfnod fel prif weithredwr.
Ond mynnodd, ar waethaf y problemau ariannol sy'n wynebu'r pedwar rhanbarth Cymreig, y gallai pumed fod yn ddichonadwy.
"Gallech gael dau glwb proffesiynol mewn un rhanbarth," meddai.
"Yn fy maniffesto, gallai Pontypridd, er enghraifft, erbyn 2020, wneud cais i ddod yn glwb proffesiynol.
"Os ydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn cael popeth yn y drefn gywir, yna dwi'n credu y gallen ni gael tîm arall."
Mae'r gŵr o Seland Newydd am gael ei ethol i fwrdd URC ac mae e am herio Pickering am swydd y cadeirydd.
Mae e wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer rygbi yng Nghymru, ac mae e wedi cyhuddo URC o esgeuluso'r gêm ar lawr gwlad.
Gwella cyfleusterau
Mae URC yn dweud ei fod yn cefnogi'r gêm amatur gyda chynnydd ariannol blynyddol yn unol â chynllun pum mlynedd, ac yn ddiweddar cyhoeddodd grantiau sy'n werth cyfanswm o £341,683 ar gyfer 47 o glybiau i'w helpu i wella cyfleusterau.
Ond, mae'r undeb wedi gwrthod ymateb yn gyhoeddus i sylwadau Moffett.
Mae Moffett yn honni bod ganddo gefnogaeth o leia' 50 o glybiau i orfodi cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig o'r undeb (EGM).
Mae angen isafswm o 32 o glybiau (allan o gyfanswm o 320 sydd wedi cofrestru gydag URC) i alw EGM.
Ond ychwanegodd Moffett na fyddai'n enwi'r clybiau tan i'r EGM gael ei alw, ac nid yw wedi dweud pryd y gallai hynny ddigwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014