Galw ar gadeirydd cwmni dawns i adael ei swydd
- Cyhoeddwyd

Mae galw ar gadeirydd y Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCC) i adael ei swydd, ar ôl i adroddiad cyfrinachol feirniadu rheolaeth y cwmni.
Ond mae Andrew Davies ym mynnu y dylai aros, er mwyn goruchwylio'r broses o benodi Bwrdd a rheolwyr newydd.
Cafodd adroddiad Cyngor y Celfyddydau ei chomisyinu ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd a ffraeo mewnol yn y Cwmni Dawns.
Yn ôl yr adroddiad nid oedd y bwrdd yn medru "gweithredu yn briodol".
'Eu dewis nhw'
Mae'r cyn Weinidog Datblygu Economaidd Andrew Davies yn gwadu'r cyhuddiad iddo fethu yn ei gyfrifoldebau fel cadeirydd.
Dywedodd Mr Davies: "Pan gafodd yr adroddiad ei ystyried gan Gyngor y Celfyddydau 'nol yn yr hydref, fe benderfynodd y pum aleod o'r Bwrdd, yn dilyn y feirniadaeth o'r llywodraethu, eu bod yn dymuno ymddiswyddo, a'u dewis nhw oedd hynny.
"Ond rwy'n gwrthod yn llwyr unrhyw gyhuddiad bod fy arweiniad yn anghywir. Mewn gwirionedd, petai hynny yn wir, fyddai'r Cyngor Celfyddydau ddim yn gofyn i mi symud ymlaen ac ailstrwythuro'r cwmni."
Y llynedd fe wnaeth yr argyfwng arwain at ymddiswyddiad sylfaenwyr y cwmni, Ann Sholem a Roy Campbell-Moore, yn ogystal â phump o'r wyth cyfarwyddwr.
Fe dderbyniodd CDCC £875,000 o nawdd gan Gyngor y Celfyddydau yn 2013/14, tua 85% o'u hincwm, a disgwylir i'r nawdd fod yn £853,125 yn 2014/15.
Dywedodd prif weithredwr Cyngor y Celfyddydau, Nick Capaldi ei fod yn cefnogi penderfyniad Andrew Davies i aros fel cadeirydd:
"Fe yw'r person iawn y arwain y cwmni yn ystod y cyfnod presennol."
Ymddiswyddodd Roy Campbell-Moore, arweinydd artistig y cwmni yn 2013 yn dilyn cwynion am ei ymddygiad. Fe arweiniodd hynny at densiynau pellach ymhlith y Bwrdd ac ym Mis Tachwedd fe ddaeth ymddiswyddiad y cyfarwyddwr artistig Ann Sholem.
Dywedodd cyn aelod o'r Bwrdd, Christine Lewis, ei bod yn anghytuno â nifer o gasgliadau'r adroddiad, yn ogystal â'r cynnydd a wnaed ers cyhoeddi'r ddogfen.
"Rwy'n credu fod pethau yn waeth nag oedden nhw saith mis yn ol, achos roedd gennym ni gyfarwyddwr artistig gyda phroffil rhyngwladol enfawr. Hyd y gwela'i, does dim byd wedi digwydd. Mae'n rhaid bod asgwrn cefn y cwmni yn gwanhau ar hyn o bryd."
'Yn falch'
Yn ôl yr adroddiad fe ddylai aelodau y Bwrdd gwreiddiol gamu i'r neilltu, ac fe ddylai Mr Davies a dau aelod arall o'r Bwrdd oruchwylio penodiad Bwrdd newydd cyn ymadael.
Fe ddywedodd Andrew Davies fod y broses ailstrwythuro yn parhau ac mae'n awyddus i aros hyd nes bod y strwythur newydd yn ei le.
"Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn a dawns ac rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â'r cwmni.
"Rwy'n falch o be' mae'r cwmni wedi ei wneud ac fe all Cymru fod yn falch o'r cwmni dawns cenedlaethol. Rydw i eisiau helpu gyda'r broses drawsnewid cyn pasio'r cwmni ymlaen at rywun arall".