Gwrthdrawiad: dyn wedi marw yn Aberdaugleddau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain ffordd yn Aberdaugleddau. Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi hanner nos fore Llun yn y Rath.
Cafodd y gyrrwr beic modur ei gludo i'r ysbyty lle buodd o farw.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhywun welodd y ddamwain i gysylltu trwy ffonio 101.