Targedu sgiliau ymfudwyr: maniffesto Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jill Evans
Disgrifiad o’r llun,
Jill Evans oedd unig ASE Plaid Cymru wedi'r etholiad diwethaf

Mi ddylai Llywodraeth Cymru dargedu sgiliau ymfudwyr o wledydd eraill meddai Plaid Cymru.

Mi oedden nhw'n dweud hyn wrth lansio eu maniffesto ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai.

Mi allai doctoriaid a darlithwyr prifysgol gael eu denu yma fel rhan o "bolisi ymfudo sydd yn cwrdd ag anghenion Cymru" meddai Plaid.

Un o addewidion y blaid yn y maniffesto yw creu 50,000 o swyddi a gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu y gallai Plaid Cymru golli'r unig sedd Ewropeaidd sydd ganddi.

Cafodd y maniffesto ei lansio ger Rhydaman yn Sir Gâr ddydd Llun. Ymysg y polisïau mae'r blaid yn gaddo, mae:

• sicrhau 150,000 o swyddi i Gymru trwy aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE)

• creu 50,000 o swyddi ychwanegol i Gymru trwy gytundebau gyda chwmnïau Cymreig

• rhoi sicrwydd o swydd neu hyfforddiant i bobl ifanc o dan 25 oed os ydyn nhw wedi bod yn ddi-waith am fwy na phedwar mis

• ymladd er mwyn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg o fewn yr UE

• gwella cysylltiadau trenau a ffyrdd ar draws Cymru

Llais Cymru

Dywedodd Jill Evans, unig ASE Plaid Cymru wedi'r etholiadau Ewropeaidd diwethaf, mai'r blaid yw'r unig un sydd yn "sefyll i fyny ar gyfer budd cenedlaethol Cymru".

Dywedodd Ms Evans, yr ASE sydd wedi cynrychioli Cymru am y cyfnod hiraf yn senedd Ewrop, y byddai swyddi yn cael eu colli am y bydd yna dorri 'nôl ar fuddsoddi yng Nghymru.

"Pobl Cymru yw ein blaenoriaeth ni. Rydyn ni yn atebol iddyn nhw yn unig. Mae 'na lot yn fantol yma. Mae 150,000 o swyddi Cymru yn ddibynnol ar fasnach o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni yn cael arian ar gyfer buddsoddi, hyfforddi, addysg ac i wella ein seilwaith.

"Os ydych chi, fel ni yn rhoi pobl Cymru yn gyntaf yna mae'n rhaid i chi bleidleisio ar gyfer Plaid Cymru- y blaid sydd yn cynrychioli Cymru yn yr etholiad Ewropeaidd."

Trydydd oedd Jill Evans yn yr etholiad diwethaf yn 2009, tu ôl i'r Ceidwadwyr a'r blaid Lafur. UKIP gafodd y bedwaredd sedd.

Dangosodd pol piniwn YouGov wythnos diwethaf fod Ms Evans mewn peryg o golli ei sedd yn yr etholiad fis Mai.

Ymosod ar y dde

Cafodd y pol ei wneud ar gyfer prifysgol Caerdydd a Chaeredin.

Mae arweinydd y blaid, Leanne Wood wedi dweud yn y gorffennol wrth BBC Cymru y bydd hi yn her i Blaid Cymru gadw ei sedd os oes na nifer isel yn penderfynu pleidleisio.

Yn ystod y lansiad ddydd Llun roedd Ms Wood yn parhau i ymosod ar wleidyddiaeth y dde. Mi ddywedodd hi mewn araith yng nghynhadledd Plaid Cymru fod "athroniaeth ar y dde yn fygythiad uniongyrchol i fuddiannau Cymru."

Dywedodd hi: "Mae'r holl bleidiau Prydeinig wedi defnyddio rhethreg ynglŷn ag ymfudwyr a sinigiaeth Ewropeaidd er mwyn ennill pleidleisiau hawdd yn yr etholiad.

"I'r sawl sydd eisiau ymbellhau oddi wrth y rhethreg yna, i'r sawl sydd eisiau cydweithrediad rhyngwladol i reoleiddio bancwyr, bod yn llym ar bobl sydd yn osgoi talu treth, sydd eisiau i newid hinsawdd a heddwch fod yn ganolbwynt gwleidyddiaeth Ewropeaidd, ac yn benodol i'r bobl hynny sydd eisiau atal y dde eithafol rhag ennill tir yng Nghymru, mi fydden ni yn gofyn i chi i gyd i gefnogi Plaid Cymru."

Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sydd yn sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddydd Iau Mai 22 ar gael yma.