Ad-dalu £90,000 ar ôl claddu dyn a hawlio budd-daliadau

  • Cyhoeddwyd
Geoffrey Sturdey
Disgrifiad o’r llun,
Mi ddangosodd post mortem fod Geoffrey Sturdey wedi marw o achosion naturiol

Mae dwy fenyw gafodd eu carcharu ar ôl claddu dyn yn yr ardd gefn a pharhau i hawlio budd-daliadau wedi cael gorchymyn i ad-dalu cyfanswm o £90,000.

Mi ddiflannodd Geoffrey Sturdey o Beth Berith, Tregaron yn 2008. Roedd yn 60 oed.

Mi gyfaddefodd ei wraig, Rebekah Sturdey, 56 oed, a Boqer-ore Adie, 43 oed, eu bod nhw wedi ei gladdu a'u bod wedi hawlio £135,000 mewn budd-daliadau.

Cafodd corff Mr Sturdey ei ddarganfod yn dilyn ymchwiliad yr Adran Waith a Phensiynau a dangosodd post mortem iddo farw o achosion naturiol.

Dywedodd barnwr yn Llys y Goron Abertawe y byddai'r ddwy'n cael eu hanfon yn ôl i garchar os nad ydyn nhw'n talu o fewn chwe mis.

Cafodd y ddwy 20 mis o garchar yn gynharach eleni.

Roedd Sturdey wedi hawlio £57,759 o fudd-daliadau, gan ddweud bod ei gŵr dal yn fyw. Fe wnaeth Adie bledio'n euog wedi iddi dderbyn £77,318 o lwfansau a budd-daliadau.