Gwell Hwyr Na Hwyrach: 26-27 Ebrill
- Cyhoeddwyd
Bob dydd Llun mi fydd BBC Cymru Fyw yn cymryd cipolwg yn ôl ar rai o ddigwyddiadau'r penwythnos. Dyma i chi rai o'r pethau dynnodd ein sylw dros y Sul aeth heibio.
- Mi gyhoeddodd The Independent on Sunday erthygl gan Holly Williams yn edrych ymlaen at ddarlledu cyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland ar BBC 4 nos Lun. Mae'r newyddiadurwraig, sy'n hannu o'r Canolbarth, yn falch y bydd gogoniant Ceredigion yn cael ei weld gan gynulleidfa ehangach.
Ffynhonnell y llun, Fiction Factory
Bydd DCI Mathias (Richard Harrington) i'w weld ar BBC 4 nos Lun
- Mae tîm pêl-droed Caerdydd mewn trafferthion mawr ar waelod yr Uwchgynghrair ar ôl colli 4-0 i Sunderland brynhawn Sul. Mae Paul Evans, un o gefnogwyr y clwb ers chwe degawd, wedi crisialu ei farn am berfformaid yr Adar Gleision yn ei flog.
Ffynhonnell y llun, Reuters
Fabio Borini yn sgorio yn erbyn Caerdydd brynhawn Sul
- Daeth Gŵyl Ffocws Cymru i ben yn Wrecsam. Ymhlith y perfformwyr roedd Kizzy Crawford a Casi Wyn, dwy gantores a fydd yn elwa o brosiect Gorwelion BBC Cymru eleni.
- Roedd yna gyfres newydd ar S4C nos Sadwrn. Morgan Jones ac Elin Llwyd sy'n cyflwyno Band Cymru, rhaglen sy'n rhoi llwyfan i rai o fandiau pres, chwyth a jazz gorau Cymru. Gallwch wylio'r rhaglen gyntaf ar wefan Clic S4C.
Hanna Gwyn o Fethel
- Alice Ford, 21 o Radyr yng Nghaerdydd, gafodd ei choroni yn Miss Wales 2014 nos Sadwrn. Ddydd Gwener yn ystod y dydd mi fuodd un o'r cystadleuwyr eraill, Hanna Gwyn o Fethel ger Caernarfon, yn rhoi darlun i BBC Cymru Fyw o'r paratodau ar gyfer y gystadleuaeth.