Traean o fyfyrwyr wedi ystyried gadael oherwydd costau
- Cyhoeddwyd

Mae traean o fyfyrwyr yng Nghymru wedi ystyried rhoi'r gorau i'w cyrsiau, gyda'r rhan fwyaf yn beio costau byw, yn ôl undeb myfyrwyr.
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM Cymru) yn rhybuddio nad ffioedd dysgu yw'r unig her sy'n wynebu myfyrwyr prifysgolion.
Dangosodd ffigyrau diweddar bod nifer yr ymgeiswyr o Gymru i brifysgolion wedi cynyddu, ond mae UCM yn poeni na fydd nifer o fyfyrwyr yn gallu cwblhau eu cyrsiau.
Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi gweithredu un o'r systemau cyllid myfyrwyr tecaf erioed.
'Straen clir'
Mae'r undeb myfyrwyr yn galw ar y llywodraeth i ystyried eu hymchwil fel rhan o adolygiad o gymorth i fyfyrwyr.
Dywedodd UCM Cymru bod eu hymchwil yn dangos bod costau byw uchel yn "rhoi straen clir ar allu myfyrwyr i aros mewn addysg" yn ogystal â ffioedd dysgu.
Dywedodd y Dirprwy Lywydd, Beth Button: "Ni ddylai unrhyw fyfyriwr orfod dewis rhwng gwres neu fwyta.
"Ni all Cymru fforddio i anwybyddu'r effaith mae costau byw yn ei gael ar allu myfyrwyr i gwblhau eu hastudiaethau."
Mae llywodraeth Cymru wedi amddiffyn eu polisi cyllid i fyfyrwyr.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r adroddiad yma yn dangos, er gwaethaf gwelliannau yn yr economi, bod myfyrwyr, fel nifer eraill dros Gymru, yn wynebu cyfnod ariannol anodd ac yn ei chael hi'n anodd delio gyda'r cynnydd mewn costau byw.
"Dyna pam yr ydyn ni wedi gweithredu'r hyn rydyn ni'n ei gredu yw un o'r systemau cyllid myfyrwyr tecaf erioed yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2013