Carcharu plismyn am ddwyn o dŷ mewn cyrch ffug
- Cyhoeddwyd

Mae dau o swyddogion Heddlu De Cymru wedi eu carcharu wedi iddyn nhw gael eu dal yn dwyn mewn cyrch ffug.
Cafodd y Ditectif Sarjant Stephen Phillips ei ddal yn dwyn £250, ac roedd y Ditectif Gwnstabl Jason Evans wedi dwyn dau feiro ysgrifennu.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd bod y ddau wedi eu dal mewn cyrch ffug gafodd ei drefnu gan Heddlu'r De.
Cafodd Phillips, 45 o Sgiwen ei garcharu am 22 wythnos, tra bod Evans, 44 o Gil-ffriw wedi ei ddedfrydu i 12 wythnos dan glo.
Aeth y dynion, sydd wedi bod gyda Heddlu'r De ers 19 a 26 mlynedd, i chwilio tŷ yng Nghastell Nedd fel rhan o ymchwiliad i nifer o achosion o ddwyn ym Manceinion.
Niweidio enw da
Ond heb wybod i'r dynion, roedd y 'cyrch' yn ymgyrch cudd gan Heddlu'r De, oedd wedi gosod camerâu cudd yn y tŷ.
Cafodd Evans ei ddal yn dwyn pinnau ysgrifennu, tra bod Phillips wedi ei ddal yn rhoi £250 yn ei boced.
Dywedodd y barnwr Bodfan Jenkins bod yr eitemau o werth isel, ond bod y niwed i enw da'r heddlu wedi bod yn llawer mwy.
"O ystyried yr holl anawsterau sydd gan heddwas, gall y math yma o ymddygiad achosi niwed mawr i'r llu."
Ychwanegodd: "Mae'r cyhoedd yn disgwyl y safonau uchaf gan yr heddlu a doedd eich ymddygiad ddim wedi cyrraedd y nod."
Mae disgwyl i'r dynion gael eu diswyddo ar unwaith ac mae'n debyg y byddent yn colli eu pensiynau gan yr heddlu.
Dywedodd Catrin Evans o Wasanaeth Erlyn y Goron fod y swyddogion wedi camymddwyn yn eu swyddi.
"Mae'n hollbwysig bod gan y cyhoedd pob hyder bod y rheiny sy'n gweithio o fewn y system gyfiawnder am sicrhau'r safonau uchaf posib o ran eu hymddygiad a phroffesiynoldeb.
"Lle mae unigolion yn methu a chyrraedd y safonau yna, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dilyn achosion troseddol lle mae tystiolaeth ddigonol ac mae hi o fudd i'r cyhoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2014