Alwyn Elis: y dyn sy'n creu argraff
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Alwyn Elis o Wasg Gwynedd yn derbyn gwobr am ei gyfraniad i'r diwydiant cyhoeddi yng ngŵyl y Fedwen Lyfrau ar benwythnos Calan Mai yn Nant Gwrtheyrn.
Dros 40 mlynedd a mwy cyhoeddodd y wasg dros 400 o lyfrau ac ymhlith y rhai gafodd eu cyhoeddi mae'r 40 o hunangofiannau yng Nghyfres y Cewri, un o'r cyfresi mwyaf llwyddiannus yn yr iaith Gymraeg, a werthodd gyfanswm o 110,000 o gopïau.
Mae'r Cwlwm Cyhoeddwyr wedi anrhydeddu enwau mawr y byd cyhoeddi yng Nghymru yn y gorffennol, gan gynnwys yr awdures Bethan Gwanas, y dylunydd Elgan Davies, a'r llyfrwerthwraig a'r cyfaill mawr i lyfrau Arianwen Parri, mam Myrddin ap Dafydd.
Dywedodd y Parchedig Aled Davies o Gyhoeddiadau'r Gair a chadeirydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru: "Prin iawn yw'r sawl sydd wedi derbyn y wobr hon yn y gorffennol ond eleni roedd hi'n hollol amlwg fod yna un oedd yn gwbl haeddiannol ohoni.
"Ar drothwy ei ymddeoliad, hyfryd oedd cael cyhoeddi mai Alwyn fyddai'n derbyn yr anrhydedd.
'Hyfrydwch'
"Bydd yn hyfrydwch pur cael cyflwyno'r wobr i Alwyn am ei gyfraniad aruthrol i fyd cyhoeddi yng Nghymru am gyfnod o 42 o flynyddoedd.
"Yn ogystal â rhannu diddordeb yn y byd cyhoeddi, mae'r ddau ohonon ni wedi cydweithio ers blynyddoedd bellach yng ngwaith Capel Uchaf, Chwilog, fel blaenor a gweinidog."
Dros y blynyddoedd daeth enw Gwasg Gwynedd yn gyfarwydd i ddarllenwyr llyfrau Cymraeg.
Sefydlwyd y wasg yn 1972 gan Alwyn a Gerallt Lloyd Owen ac roedd Alwyn yn gweithredu fel ei Chyfarwyddwr Rheoli o'r cychwyn cynta'.
Roedd yn dechrau ar ei waith drannoeth iddo orffen fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Dyfalbarhad ac amynedd yw ei brif gryfderau," meddai Mr Davies. "Does ganddo ddim ofn gwaith ac mae'n un go benderfynol.
"Mae wedi bod yn barod iawn i gydweithio a cheisio cymod a chyd-ddealltwriaeth oddi fewn i'r byd cyhoeddi ar hyd y blynyddoedd."
Ymroddiad
Cryfder arall, meddai, yw ymroddiad gwraig dda, Nan sydd wedi llywio degau o gyfrolau drwy'r wasg fel golygydd manwl a chreadigol. "Maen nhw wedi cydweithio fel tîm hynod o effeithiol."
Dywedodd fod gan yr holl gyhoeddwyr sy'n rhan o'r Cwlwm feddwl uchel ohono fel cydweithiwr a ffrind ac y byddai'r golled o fewn bywyd y Cwlwm yn fawr.
Pan sefydlwyd Gwasg Gwynedd yn 1972 roedd y byd argraffu yng nghanol chwyldro mawr, newid o'r broses hynafol yn defnyddio llythrennau plwm, oedd wedi bodoli ers 500 mlynedd, i'r broses lithograffig.
Daeth y cyfrifiaduron wedyn i wneud gwaith cysodi a dylunio'n rhwyddach fyth.
Yn ôl Alwyn, "dros y blynyddoedd daeth cynhyrchu'n haws ond y gwerthu'n anoddach". Erbyn hyn mae datblygiad eto wrth i fwy o gyhoeddi symud i fyd digidol.
Ond beth sy' angen i oroesi yn y byd cyhoeddi? Yn ôl Alwyn, "cael syniadau da am lyfrau gwerthadwy a bod yn fodlon symud efo'r oes. Mae cysylltiadau yn bwysig - dod o hyd i awduron a golygyddion ymroddedig."
Heriol
Mae'n fyd heriol, meddai, "oriau hir a chyflog bach ac un dedlein ar ôl y llall."
Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi oedd 'Dewch i Adrodd' Selwyn Griffith ac un o'u llyfrau mwyaf poblogaidd fu Bywyd Bob Owen gan Dyfed Evans, Pencaenewydd.
Y gwerthwr gorau o'r cwbl oedd Fi, Dai, sy 'ma, hunangofiant Dai Jones, Llanilar.
Daw'r llyfr olaf, nofel Gareth F. Williams, yn wreiddiol o Borthmadog, o'r wasg ar ddydd olaf y mis hwn.
Er i'r cyhoeddi ddod i ben bydd Alwyn yn dal i warchod buddiannau awduron y wasg a gwerthu cyfrolau o gatalog y wasg.
Ond mae'n gobeithio cael mwy o gyfle i deithio a hamddena.
Dywedodd Mr Davies ei fod yn edrych ymlaen at fwy o gydweithio gydag Alwyn gan ei fod wedi cytuno i helpu gyda phapur bro Y Ffynnon.
"Dymunwn ymddeoliad hapus i Alwyn ac i Nan, wrth gwrs, sydd wedi bod yn hynod weithgar fel golygydd y wasg dros y 12 mlynedd diwethaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012