Nigel Evans yn cael chwip y blaid yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Nigel EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Nigel Evans wedi gwadu'r cyhuddiadau o'r cychwyn

Mae'r AS Nigel Evans wedi ailymuno â rhengoedd y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl yr achos llys lle y cafwyd yn ddieuog o nifer o droseddau rhyw.

Roedd wedi bod yn fel aelod annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl cael ei gyhuddo.

Ddydd Llun cyhoeddodd Sir George Young, Prif Chwip y Ceidwadwyr, y byddai Mr Evans yn cael chwip y blaid yn ôl.

Bythefnos yn ôl fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Preston fod AS Ribble Valley yn ddieuog o naw cyhuddiad.

Fe barodd yr achos am bum wythnos.

Ar ôl yr achos beirniadodd nifer o wleidyddion y penderfyniad i erlyn Mr Evans oedd wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel dirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin.

Yn falch

"Fe wnaeth Nigel Evans gyfarfod â Syr George Young yn Rhif 9 Downing Street ac fe gafodd y chwip yn ôl," meddai llefarydd ar ran y blaid.

Dywedodd Mr Evans ei fod yn falch o fod yn ôl yn rhengoedd y Ceidwadwyr.

Ar ôl yr achos roedd wedi dweud ei fod yn wynebau costau cyfreithiol o £130,000.

Wedyn dywedodd ei fod yn bwriadu ymgyrchu er mwyn diwygio'r gyfraith fel nad yw pobl sy'n cael eu cyhuddo ar gam yn wynebu colledion enfawr.

Mae wedi galw ar Bwyllgor Materion Cyffredin Tŷ'r Cyffredin i ystyried a ddylid enwi pobl sy'n wynebu cyhuddiadau troseddau rhyw.

Roedd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Erlyn y Goron, Alison Saunders, wedi amddiffyn y penderfyniad i erlyn Mr Evans.