Llys: gwadu cyhuddiad o yrru'n ddiofal
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi gwadu cyhuddiad o achosi marwolaeth dyn 84 oed ym Mangor drwy yrru'n ddiofal.
Bu farw Eifion Wyn Davies Hughes, cyn bennaeth Gwyddoniaeth Coleg y Normal Bangor, wedi fan ei daro ar Ffordd Waterloo ar Awst 6.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Lee Dwyer, 30 oed o Darwen yn Sir Gaerhirfryn, ei ryddhau ar fechnïaeth tan Hydref 21.
Roedd Mr Hughes yn athro yn Ysgol Ramadeg Llandeilo cyn darlithio yn adran fotaneg y Coleg Normal rhwng 1963 a 1989.
Hefyd roedd yn artist dyfrlliw dawnus.