Gwella gofal i glefydau'r ysgyfaint
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynllun yn ddiweddarach i geisio gwella gofal i'r miloedd o bobl sy'n dioddef o glefydau'r ysgyfaint neu anadlu.
Mae'r clefydau yma - fel y fogfa, bronchitis ac ati - yn taro un o bob saith o'r boblogaeth, ac maen nhw hefyd yn gyfrifol am un o bob saith marwolaeth.
Bwriad y strategaeth pum mlynedd yw llywio gwaith y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn cyflymu diagnosis a cheisio lleihau nifer y bobl sy'n diodde'.
Triniaeth ocsigen
Mae Elwyn Williams, o Abergele, yn esiampl o sut y gall clefyd yr ysgyfaint effeithio ar fywyd pob dydd. Dywedodd:
"Dwi'n cael ocsigen am 15 awr y dydd erbyn hyn. Dwi'n rhoi'r ocsigen ymlaen weithiau wrth eistedd o gwmpas gyda'r nos ac yna'i adael ymlaen dros nos tan y bore wedyn ynde.
"Roedden nhw'n dda iawn yn [Ysbyty] Glan Clwyd... rhaid i mi eu canmol nhw. Bellach mae 'na nyrs yn dod yma bob hyn a hyn jyst i checio.
"Mae o wedi effeithio ynde... fedra i ddim 'neud pethau yn yr ardd fel oeddwn i ers talwm, ac mae'n waeth pan dwi'n plygu drosodd."
Nod cynllun newydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr enghreifftiau gorau o waith y GIG yn y maes yn cael eu rhannu a'u cynnig ar draws y wlad.
'Cyflym ac effeithiol'
Daeth croeso i'r cynllun gan Dr Matt Jones, sy'n arbenigwr yng nghlefydau'r ysgyfaint yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Dywedodd: "Mae hwn yn gyfle gwych i greu rhwydwaith i wella'r holl wasanaethau ry'n ni'n rhoi i'r boblogaeth.
"Mae'n broblem fawr o hyd er bod hanes diwydiannol Cymru yn lleihau nawr, ac mae'n bwysig cael triniaeth yn gyflym a thriniaeth effeithiol.
"Gobeithio felly bydd y cynllun yma yn gallu cynnig pob math o driniaethau ar draws Cymru i gyd."
Un elfen bwysig wrth gwrs yw ceisio lleihau nifer y boblogaeth sy'n ysmygu, ac fe fydd ymdrech hefyd i gynyddu faint o waith ymchwil sy'n cael ei wneud i afiechydon yr ysgyfaint.
Fe ddywed Llywodraeth Cymru y gallai'r cynllun wella iechyd a safon bywyd miloedd o bobl, ac fe fydd y byrddau iechyd ar draws Cymru nawr yn mynd ati i drefnu sut y byddan nhw'n cwrdd â'r amcanion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013