Prif Weinidog yn barod i drafod cyflogau
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn fodlon cwrdd â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac undebau er mwyn ceisio datrys anghydfod am gyflogau.
Daeth undeb Unsain i gysylltiad ag ef yn ei swydd fel aelod cynulliad Pen-y-bont.
Mae'r cyngor yn bwriadu rhewi cyflogau pob un o'u staff heblaw'r rhai ar y cyflogau isaf.
Ond mae bob cyngor arall yng Nghymru yn cynnig codiadau cyflog i'w gweithwyr.
Yn ôl y cyngor, sy'n cael ei reoli gan Llafur, fe fydd y penderfyniad yn arbed tua £1 miliwn ac yn cynorthwyo i warchod swyddi a gwasanaethau.
Trafodaethau ar y cyd
Ond mewn llythyr mae'r undeb yn honni y gallai'r penderfyniad "gael goblygiadau ehangach ar ddyfodol bargeinio ar y cyd yn genedlaethol", gan ofyn am gyfarfod gyda Mr Jones a'r gweinidog llywodraeth leol Lesley Griffiths.
Bydd cynrychiolwyr o undebau Unsain, Unite a'r GMB yn cwrdd â chabinet y cyngor yn ddiweddarach er mwyn gwrthwynebu'n ffurfiol y penderfyniad i ymwrthod â'r system o drafod cyflogau ar y cyd yn genedlaethol.
Fel arfer mae'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn trafod codiadau cyflog gyda'r undebau fel rhan o'r Cyngor Cenedlaethol dros Wasanaeth Llywodraeth Leol.
Eleni mae'r cynghorau i gyd wedi cynnig codiadau o 1% i bob aelod o staff gydag ychydig mwy i'r rhai ar y cyflogau isaf.
'Ffeithiau a thystiolaeth'
Ond mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu cynnig 1% i'r rhai sydd ar raddfa cyflog 1 a 2 - sef y rhai sy'n ennill llai na £14,880 - a rhewi cyflogau pawb arall.
Dywedodd yr undebau bod hynny'n annheg ac y bydd staff Pen-y-bont yn diodde' pan na fydd eraill.
Yn ôl Unsain, byddai'r cynigion yn "arwain at gyflogau rhanbarthol, sef yr union bolisi y mae'r Blaid Lafur yn gwrthwynebu".
Yn ei araith i gynhadledd Llafur y llynedd, dywedodd Carwyn Jones:
"Pan geisiodd y Ceidwadwyr danseilio cytundebau cyflog drwy'r DU trwy godi'r syniad o gyflog rhanbarthol roedden ni'n gwybod y byddai newid o'r fath yn golygu llai o arian i filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru a rhannau eraill o Loegr.
"Nid yn unig y gwnaethon ni ddweud 'Na' yng Nghymru, ond fe wnaethon ni gefnogi hynny gyda ffeithiau a thystiolaeth a chwalodd ddadl Llywodraeth y DU."
'Penderfyniad anhygoel'
Mae Jeff Jones yn gyn arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac yn ymgynghorydd ar lywodraeth leol, a dywedodd bod penderfyniad yr awdurdod yn gosod cynsail peryglus.
"Unwaith yr ewch chi ar hyd llwybr cyflogau rhanbarthol, yna mae'n ras i'r gwaelod," meddai.
"Rwy'n gwybod bod y cyngor yn wynebu sefyllfa anodd yn ariannol, ond rwy'n credu bod y penderfyniad yma yn anhygoel.
"Byddai cael un cyngor ar gyflog gwahanol o'r lleill yn gallu achosi anhrefn pan ddaw hi'n fater o ad-drefnu llywodraeth leol.
"Ac yn y cyfamser pwy fyddai am gael swydd yno? Bydd unrhyw un sydd â dewis yn derbyn swydd gyda chyngor arall."
'Dewis anodd'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr:
"Fe gododd y cynnig i rewi cyflogau i bawb ond y rhai sydd ar y cyflogau isaf oherwydd yr angen i wneud arbedion o £36 miliwn dros y blynyddoedd nesaf, ac oherwydd bod tua 68% o gyllideb y cyngor o £255m yn ymwneud â chostau cyflogau staff.
"Yn amlwg mae hwn yn ddewis anodd i'w wneud gan ei fod yn golygu gadael y trafodaethau cyflog cenedlaethol, ond mae'r awdurdod yn credu trwy wneud hynny y bydd yn gallu cyfyngu ar golli swyddi cymaint â sy'n bosib tra'n parhau i ddarparu a gwarchod gwasanaethau hanfodol.
"Gydag uwch reolwyr yn rhan o'r cynlluniau mae cynghorwyr hefyd wedi cael cais i wrthod yr 1% ychwanegol sydd wedi cael ei gymeradwyo i aelodau etholedig ar draws Cymru."
Dywedodd Carwyn Jones wrth BBC Cymru: "Mae Unsain wedi cysylltu â mi ar y mater yma, ac fel aelod cynulliad lleol rwy'n barod i gyfarfod naill ai gyda nhw neu'r awdurdod lleol er mwyn ceisio canfod datrysiad i'r mater."
Straeon perthnasol
- 17 Ebrill 2014
- 16 Ebrill 2014
- 10 Mawrth 2014
- 19 Chwefror 2014